Cysylltu â ni

GWEIDDI - y cylchgrawn ar y we i bobl ifanc

Croeso i rifyn mis Mai 2012 GWEIDDI! Gydag Eisteddfod yr Urdd ar ein gwarthau, mi fydd digon o GOCH, GWYN A GWYRDD o gwmpas y mis yma. Ond nid dyna'r unig LIWIAU yn y byd 'chwaith! Beth am liwiau baneri gwahanol wledydd a beth mae gwahanol liwiau yn ei gynrychioli ar draws y byd? Dewch i chwilota!

Ffeil ffeithiau
Roedd y Cymro cyntaf erioed i fynd i'r gofod yn fach ac yn dew ac yn goch, gwyn a gwyrdd...
Yng nghyfnod Cleopatra, malwod oedd yn cael eu defnyddio i greu'r lliw porffor! Cafodd y broses ei chadw'n gyfrinach am ganrifoedd lawer...
Mae cangen olewydd yn hen arwydd o heddwch. Ond baner pa wlad sydd â changhennau olewydd gwyrdd arni?
Rhif y mis
7
Rydyn ni'n gweld enfys fel cyfres o saith lliw. Ond dydy hyn ddim yn hollol gywir...