Braille - Ddoe, heddiw ac yfory

Rhifyn 14 - Cyfathrebu
Braille - Ddoe, heddiw ac yfory

Bachgen ifanc o'r enw Louis Braille (1809 - 1852) o Coupvray ger Paris ddyfeisiodd braille. Collodd ei olwg trwy ddamwain pan oedd yn dair oed. Aeth i'w ysgol leol ond doedd e ddim yn dysgu llawer trwy wrando e2_1 (4).jpgyn unig. Pan oedd yn 10 oed enillodd ysgoloriaeth i gael ei addysg yn  y Sefydliad Brenhinol ar gyfer Pobl Ifanc Dall ym Mharis. 14 llyfr anferth oedd yno gyda'r llythrennau wedi eu codi. Roedd Louis yn awchu am fwy o wybodaeth.

Yna, yn 1821, pan oedd Louis yn 12 oed, ymwelodd cyn filwr â'r ysgol a chyflwyno ei ddyfais 'darllen nos' sef côd o 12 dot wedi eu codi. Ei bwrpas oedd galluogi milwyr i rannu cyfrinachau ar faes y frwydr heb siarad ond roedd yn rhy anodd iddynt! Roedd Louis wedi gwirioni gyda'r syniad a symleiddiodd y system i 6 dot.Yna yn 1829 cyhoeddodd y llyfr cyntaf mewn braille.

Go brin y dychmygodd y byddai ei system o ysgrifennu a darllen trwy deimlo â'r bysedd yn dal i gael ei defnyddio ymhen 200 mlynedd!

Erbyn hyn mae wedi cael ei addasu i gwrdd â gofynion pob iaith o Roeg i Zulu. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddangos nodau cerddoriaeth, mathemateg, chwarae gwyddbwyll a gwyddoniaeth. 

braille_welsh_497x415.jpg (1)

Mae Cymdeithas y Deillion ( RNIB) wedi ymgyrchu dros hawliau pobl ddall a rhannol ddall i allu cyfathrebu trwy'r gair ysgrifenedig ar hyd y blynyddoedd. Erbyn hyn  mae gan y gymdeithas dros 25,000 o lyfrau a sgoriau cerdd mewn braille.

Ceisia'r Gymdeithas gadw braille yn fyw mewn nifer o ffyrdd:

  • Cyfrannu miloedd o bunnau tuag at gyhoeddi llyfrau braille bob blwyddyn
  • Gweithio gyda mudiadau led-led y byd i sicrhau bod pobl yn dysgu braille a bod technoleg yn dal i gael ei ddatblygu
  • Gwerthu cannoedd o wahanol fathau o lyfrau a chyhoeddiadau i  helpu pobl i ddarllen ac ysgrifennu braille gan ddefnyddio technolegau newydd
  • Trefnu cyrsiau dysgu braille
  • Rhoi cymorth i bobl a chwmnїau gyflwyno gwybodaeth mewn braille

Ond fel mae'r byd yn datblygu tybed beth fydd hanes braille yn y dyfodol? e2_2 (4).jpg
A fydd yn cael ei ddisodli gan dechnoleg newydd fel dyfeisiadau darllen print a sgrin fydd yn troi testun yn eiriau ar lafar?

Mae darllen trwy gyfrifiadur gan ddefnyddio darllenwyr sgrin neu ffeiliau awdio yn rhatach na braille. Ond dydy hynny ddim yn golygu ei fod yn cymryd lle braille yn gyfangwbl ddim mwy nac ydy defnyddio cyfrifiadur ddim yn golygu nad oes raid dysgu llawysgrifen.

Dywed rhai bod braille yn fwy cywir na throsleisio llafar. Mae'n haws gweld camgymeriadau fel camsillafu wrth ddarllen braille nac wrth wrando. Mae'n fwy cyfleus  hefyd ar gyfer pethau fel nodi rhywbeth i lawr yn sydyn neu labelu.

Ar y llaw arall gellir cadw llyfr cyfan ar ddisg neu go bach yn hytrach na defnyddio pentyrrau o bapur.

Mantais dyfeisiadau radio cludadwy sy'n gallu sganio testun a'i drosi i braille ydy mynediad i wybodaeth ysgrifenedig mewn unrhyw fan. Yn yr un modd mae llyfrau electronig cludadwy yn hwyluso mynediad i wybodaeth.

Ni all neb ragweld y dyfodol ond bydd rhai dyfeisiadau technolegol yn sicr o gymryd lle braille. Ond, fel y dywedodd Jenny, sy'n ddall,
"Braille ydy eich papur a phensel mewn bywyd. Dydy e ddim yn dibynnu ar fatri a thrydan a dydy e byth yn crashio! Dylai gael ei ddefnyddio ar y cyd â thechnoleg fodern i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar beth sydd gan fywyd i'w gynnig."

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
awchu eisiau rhwybeth yn fawr to relish
gwyddbwyll gêm fwrdd gyda darnau du a gwyn chess
ymgyrchu brwydro dros rywbeth campaign
disodli cymryd lle supplant
trosleisio trac sain sy'n dweud beth sy'n digwydd/beth sydd yna voice over
cludadwy cael ei gario, symudol portable
ar y cyd gyda'i gilydd together