Dyma’r prif addewidion y mae rhai o’r pleidiau wedi’u gwneud cyn etholiadau’r Cynulliad (Roedd rhai pleidiau heb gyhoeddi eu haddewidion erbyn diwedd mis Mawrth 2016).
Maen nhw wedi cael eu rhannu’n feysydd gwahanol yma:
Iechyd:
Y Blaid Lafur: Cronfa newydd i dalu am drin salwch sy’n bygwth bywyd
Y Blaid Geidwadol: Amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan sicrhau mwy o fuddsoddiad yn y gwasanaeth bob blwyddyn
Plaid Cymru: Sicrhau profi a diagnosis o ganser cyn pen 28 diwrnod
Plaid Cymru: Cyflogi 1 000 o feddygon a 5 000 o nyrsys ychwanegol
Y Blaid Werdd: Mwy o sylw i wasanaethau iechyd meddwl
Y Democratiaid Rhyddfrydol: Mwy o nyrsys ar wardiau ysbytai
Gofal
Y Blaid Lafur: Dyblu’r arian y mae gennych chi hawl i’w gadw cyn dechrau talu am ofal preswyl. (Mae’n rhaid talu os oes gennych chi tua £23 000 ar hyn o bryd)
Y Blaid Geidwadol: Gwarchod asedau gwerth £100 000 y rhai sydd mewn gofal preswyl (h.y. fydd dim rhaid i’r henoed dalu am ofal preswyl os oes ganddyn nhw hyd at £100 000 o asedau).
Plaid Cymru:Gofal am ddim i'r henoed
Y Blaid Werdd: Datblygu ffyrdd newydd o roi gwasanaethau gofal cymdeithasol
Addysg
Y Blaid Lafur: £100m ychwanegol i wella safonau ysgolion
Y Blaid Geidwadol: Gweddnewid hyfforddiant athrawon a gwneud yn siŵr fod mwy o arian yn mynd i’r ystafell ddosbarth
Plaid Cymru: Sicrhau a chefnogi’r athrawon gorau
Plaid Cymru: Dileu hyd at £18 000 o ddyled myfyrwyr sy’n dod yn ôl i Gymru i weithio
Y Blaid Werdd: Peidio â chau rhagor o ysgolion
Y Blaid Werdd: Dim ffioedd dysgu i fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru
Y Blaid Werdd: Buddsoddi arian mewn colegau addysg bellach
Y Democratiaid Rhyddfrydol: Dosbarthiadau llai mewn ysgolion babanod
Gofal Plant:
Y Blaid Lafur: Gofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio
Y Blaid Geidwadol: Treblu’r gofal plant am ddim i 30 awr yr wythnos
Plaid Cymru: Darpariaeth meithrin rhad ac am ddim
Gwaith a’r Economi:
Y Blaid Lafur:Creu 100,000 o brentisiaethau o safon i rai o bob oed
Y Blaid Lafur: Toriadau mewn trethi i bob busnes bach yng Nghymru
Y Blaid Geidwadol:Creu mwy o swyddi drwy gefnogi busnesau bach
Y Blaid Geidwadol:Gwella seilwaith Cymru
Plaid Cymru: Creu 50 000 o brentisiaethau newydd
Plaid Cymru:Buddsoddi mewn trafnidiaeth dros Gymru gyfan
Plaid Cymru:Creu Asiantaeth Datblygu Cymru i’r 21ain ganrif
Plaid Cymru: Torri trethi busnes
Plaid Cymru:Sicrhau mwy o waith i gwmnïau o Gymru pan fydd contractau cyhoeddus yn cael eu cynnig
Y Blaid Werdd: Cefnogi busnesau lleol
Y Blaid Werdd: Creu ynni, incwm a swyddi gyda phrosiectau ynni adnewyddadwy (haul, gwynt)
Y Blaid Werdd: Buddsoddi arian mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn lle gwario ar yr M4
Y Blaid Werdd: Gwella’r cysylltiad rheilffordd rhwng Gogledd a De Cymru
Y Democratiaid Rhyddfrydol: Torri’r dreth incwm sylfaenol 1c (fel ei bod yn 19c yn lle 20c yng Nghymru)
Y Democratiaid Rhyddfrydol: Sefydlu corff sy’n cynnig cymorth ac arian i fusnesau bach
Y Democratiaid Rhyddfrydol: Rhoi’r hawl i gynghorau newid trethi busnes er mwyn rhoi hwb i ddatblygiad economaidd
Tai
Y Blaid Werdd: Codi 12 000 o dai newydd ‘gwyrdd’ y flwyddyn
Y Democratiaid Rhyddfrydol: Codi 20 000 o dai fforddiadwy dros bum mlynedd