Adeilad Senedd Cymru

Rhifyn 35 - Gwleidyddiaeth
Adeilad Senedd Cymru

Mae adeilad Senedd Cymru’n dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed yn 2016. Cafodd ei agor ar 1 Mawrth, 2006.

Fuoch chi yno erioed? Mae llawer o ymwelwyr wedi bod yno dros y deng mlynedd diwethaf:

  • Mae cannoedd o ddisgyblion o bob cwr o Gymru wedi dod i weld y Senedd.
  • Mae 31 000 taith wedi bod o gwmpas y Senedd.
  • Mae 1 000 000 o bobl wedi ymweld â’r adeilad.

 

 

Adeilad arbennig

Mae’r adeilad yn un arbennig iawn.

  • Mae wedi ennill nifer o wobrau.
  • Yr Arglwydd Richard Roberts, pensaer enwog, wnaeth y cynllun.
  • Defnyddiodd lawer o ffenestri gwydr i ddangos bod pawb yn gallu gweld beth sy’n digwydd yn y Senedd.
  • Mae’r adeilad i fod i bara 100 mlynedd.
  • Mae 36% o’r deunyddiau’n dod o Gymru, gan gynnwys 1 000 tunnell o lechi o Gymru.
  • Costiodd adeilad y Senedd £70m i’w godi.
  • Er mwyn mynd i mewn i’r Senedd, mae’n rhaid mynd drwy system ddiogelwch sy’n debyg iawn i’r un mewn maes awyr.

 

 

Adeilad gwyrdd

Adeilad y Senedd yw un o’r rhai mwyaf gwyrdd yng Nghymru:

  • Mae’n defnyddio rhwng 30% a 50% yn llai o ynni nag adeiladau arferol.
  • Mae pibellau wedi cael eu drilio 100m o dan y ddaear. Pan fydd hi’n oer, mae dŵr yn cael ei bwmpio i lawr drwy’r pibellau ac mae ynni naturiol o’r ddaear yn twymo’r dŵr i 14°C. Wedyn, bydd y dŵr yn cael ei bwmpio i fyny i’r llawr llechen er mwyn twymo’r adeilad.
  • Mae dŵr glaw yn cael ei gasglu o’r to ac yn cael ei ddefnyddio i fflysio’r toiledau yn yr adeilad.
  • Mae boeler biomas yn llosgi sglodion pren gwastraff er mwyn twymo’r adeilad.

 

Beth sy’n digwydd yn y gwahanol rannau o’r Senedd?

Os ydych chi’n edrych ar yr adeilad o’r tu allan, rydych chi’n gweld y Neuadd drwy’r ffenestri gwydr. Yma mae’r dderbynfa sydd â desg lechen fawr.

 

Yn Siambr y Senedd, mae’r 60 Aelod Cynulliad (AC) yn cwrdd i drafod. Mae’r seddi wedi’u gosod mewn cylch, gyda’r Prif Weinidog yn y rhes flaen. O flaen pob AC, mae desg o bren derw o Gymru.

 

Rydych chi’n gallu gwylio Aelodau’r Cynulliad os ewch chi i’r Oriel gyhoeddus. Yma mae’r twndis neu’r twmffat pren sy’n edrych fel coeden. Mae llawer o ystafelloedd pwyllgor hefyd yn yr adeilad. Yma, mae’r Aelodau’n trafod pethau penodol.