Gwleidyddion enwog Cymru

Rhifyn 35 - Gwleidyddiaeth
Gwleidyddion enwog Cymru

Mae llawer o wleidyddion enwog naill ai wedi dod o Gymru, neu wedi bod yn Aelodau Seneddol mewn etholaethau yng Nghymru.

Keir Hardie (1856–1915) 

O Swydd Lanark yn yr Alban roedd Keir Hardie yn dod, ond bu’n Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful. Roedd yn un o’r rhai a sefydlodd y Blaid Lafur Annibynnol yn 1893, fe oedd Aelod Seneddol cyntaf y Blaid Lafur a bu’n Arweinydd hefyd.

Chafodd Keir Hardie ddim addysg pan oedd yn blentyn. Dechreuodd weithio gyda phobydd pan oedd yn wyth oed, yn dosbarthu bara. Pan oedd yn un ar ddeg oed, aeth i weithio fel glöwr. Dysgodd ei hun i ddarllen ac ysgrifennu gyda help ei rieni.

Daeth yn Aelod Seneddol (AS) cyntaf y Blaid Lafur, yn West Ham yn nwyrain Llundain yn 1892, ond collodd ei sedd yn 1895. Yn 1900, cafodd ei ethol yn AS Merthyr Tudful. Roedd yn credu mewn cael addysg am ddim, pensiynau, a hawliau i fenywod. Hefyd roedd yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Pan oedd Keir Hardie yn Arweinydd y Blaid Lafur ym Mhrydain, daeth y blaid yn fwy poblogaidd. Yn 1900, dim ond dau AS oedd gan y Blaid Lafur. Erbyn 1906, roedd 26 AS, ac erbyn 1910, roedd 40 AS.

David Lloyd George (1863–1945)  

Hyd yma, Lloyd George yw’r unig Gymro Cymraeg sydd wedi bod yn Brif Weinidog Prydain. Cafodd ei eni yn Llanystumdwy, ger Cricieth, Dwyfor ac aeth i’r ysgol gynradd yno.

Cafodd ei hyfforddi fel cyfreithiwr. Pan gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol y Rhyddfrydwyr dros Arfon yn 1890, fe oedd aelod ieuengaf Tŷ’r Cyffredin.

Cyfraniad mawr Lloyd George oedd cyflwyno’r Wladwriaeth Les.  Ystyr hyn yw bod y wlad yn rhoi help i bobl mewn angen fel y di-waith, pobl sâl a’r henoed (pensiynau). Hefyd roedd yn siaradwr gwych, ac yn enwog am areithio’n danbaid.

Yn 1915, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth yn Weinidog Arfau Rhyfel ac wedyn yn Brif Weinidog rhwng 1916 a 1922.

Aneurin Bevan (1897–1960)

Mae Aneurin Bevan yn enwog drwy Brydain am sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS).

Cafodd ei eni yn Nhredegar. Glöwr oedd ei dad ac roedd Aneurin yn un o ddeg o blant. Gadawodd yr ysgol yn ifanc a mynd i weithio yn y pwll glo yn 13 oed.

Pan oedd yn 22 oed, cafodd ysgoloriaeth i fynd i astudio economeg, hanes a gwleidyddiaeth yng Ngholeg Canolog y Blaid Lafur yn Llundain. Bu’n ddi-waith am gyfnod ar ôl dychwelyd i Gymru. Ar ôl bod yn gynghorydd sir am gyfnod, cafodd ei ddewis i fod yn ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth Glyn Ebwy yn 1929. Enillodd y sedd honno a’i chadw am 31 mlynedd.

Yn 1945, ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daeth Aneurin Bevan yn Weinidog dros Iechyd yn y llywodraeth Lafur. Pasiwyd Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol Aneurin Bevan yn 1946, a chafodd y Gwasanaeth ei sefydlu yn 1948. Nawr, doedd dim rhaid i bobl dalu am weld y meddyg neu am aros yn yr ysbyty, roedd arian cyhoeddus yn talu am hynny.

Gwynfor Evans (1912–2005)

Gwynfor Evans oedd aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru. Cafodd ei eni yn y Barri ac roedd ei deulu’n rhedeg nifer o siopau. Hyfforddodd fel cyfreithiwr, ond bu’n gweithio fel garddwr masnachol yn Llangadog, yn Nyffryn Tywi, am y rhan fwyaf o’i oes.

Pan oedd yn y Brifysgol yn Aberystwyth, sefydlodd Gwynfor Evans gangen o Blaid Cymru. Roedd yn heddychwr a gwrthododd ymladd yn yr Ail Ryfel Byd. Yn 1945, daeth yn Llywydd Plaid Cymru ac arhosodd yn llywydd am 36 mlynedd.

Yn y 1950au dechreuodd ymgyrch yn erbyn boddi pentref Cwm Celyn ger y Bala – cynllun i greu cronfa Tryweryn i roi dŵr i Lerpwl. Methodd yr ymgyrch hon, ond daeth llawer iawn o bobl i ddeall bod angen gofalu am gymunedau Cymraeg a’r iaith Gymraeg. Daeth Plaid Cymru’n llawer mwy poblogaidd yn ystod ymgyrch Tryweryn.

Ym mis Gorffennaf 1966, yn annisgwyl iawn, enillodd isetholiad Caerfyrddin. Dyma’r tro cyntaf i Blaid Cymru ennill sedd yn San Steffan. Aeth cannoedd o bobl i Lundain i’w weld yn mynd i Dŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf.

Collodd ei sedd ddwywaith yn y 1970au, ac ymddeolodd fel Aelod Seneddol yn 1979. Yn 1980, dywedodd y Llywodraeth Geidwadol nad oedd yn mynd i sefydlu pedwaredd sianel Gymraeg fel roedd wedi addo. Felly, dechreuodd Gwynfor Evans ymprydio a bygwth llwgu ei hun i farwolaeth. Newidiodd y Llywodraeth ei meddwl, a chafodd S4C ei sefydlu yn 1982.