HERIOL 2 – Gyrfaoedd ym maes gwleidyddiaeth
Darllenwch yr e-byst canlynol:
Annwyl Swyddi Cymru,
Mae gen i ddiddordeb byw iawn mewn gwleidyddiaeth ers pan oeddwn i’n ifanc iawn. Rwy’ wrth fy modd yn dilyn beth sy’n digwydd yn y Cynulliad yng Nghaerdydd ac yn Nhŷ’r Cyffredin yn Llundain.
Hoffwn i weithio ym myd gwleidyddiaeth, ond fyddwn i ddim eisiau bod yn wleidydd, chwaith.
Byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyngor.
Diolch yn fawr.
Cofion,
Dylan Huw
Annwyl Dylan Huw,
Diolch yn fawr am dy neges. Mae gwleidyddiaeth yn faes diddorol dros ben a does dim rhaid bod yn wleidydd i weithio ynddo.
Wedi dweud hynny, mae ymddiddori mewn gwleidyddiaeth yn gam cyntaf pwysig iawn.
Os wyt ti’n cefnogi un blaid wleidyddol yn benodol, wyt ti wedi ystyried gwirfoddoli gyda’r blaid honno? Neu gallet ti wirfoddoli gyda mudiad, e.e. mudiad iaith, amgylcheddol, er mwyn dysgu rhagor am sut mae’r system wleidyddol yn gweithio. Mae profiad gwaith gwirfoddol yn aml yn llwybr i mewn i’r maes.
Mae rhai pobl yn astudio gwleidyddiaeth yn y brifysgol cyn cael swydd yn y maes hwn, ond does dim rhaid o gwbl. Er enghraifft, gallet ti astudio unrhyw bwnc, ond dy fod yn gwneud gwaith gwirfoddol (fel y soniais i uchod) gyda mudiad, plaid neu undeb y myfyrwyr. Byddai hynny’n dangos dy fod yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.
Dyma rai swyddi penodol, felly:
Ymchwilydd sy’n gweithio gyda phlaid wleidyddol neu gydag Aelod Seneddol
Mae ymchwilwyr yn:
Asiant plaid wleidyddol
Mae asiantau plaid wleidyddol yn:
Newyddiadurwr gwleidyddol
Mae newyddiadurwyr gwleidyddol yn:
Y gwasanaeth sifil
Mae gweision sifil yn:
Wel, Dylan, gobeithio bod hyn o ryw gymorth i ti. Y prif beth, rwy’n meddwl, yw cael profiad gwaith gwirfoddol yn gyntaf.
Cofia gysylltu os gallaf fod o gymorth eto.
Hwyl am y tro,
Sara Williams