Operâu Sebon yn ein helpu i ysgrifennu

Rhifyn 36 - Gwrthdaro
Operâu Sebon yn ein helpu i ysgrifennu

Dydw i ddim yn gwybod pa operâu sebon rydych chi’n eu gwylio ond rydw i’n sicr eich bod chi’n gwybod llawer amdanyn nhw. Maen nhw’n cynnwys storïau sy’n datblygu’n araf iawn ac weithiau mae’n hawdd rhagweld beth fydd yn digwydd.

Mae cymeriadau operâu sebon yn aml yn arwynebol a dydyn nhw byth yn dysgu o’u camgymeriadau. Dydyn nhw ddim yn datblygu llawer chwaith.

Er hynny, mae miliynau o bobl yn gwylio operâu sebon yn rheolaidd ac maen nhw’n neilltuo amser arbennig iddyn nhw bob dydd neu bob wythnos. Maen nhw’n gaeth iddyn nhw!

Ond sut mae ysgrifenwyr yr operâu sebon yn mynd ati i ysgrifennu? A sut gallwch chi ddilyn eu hesiampl?

 

Ysgrifennu sgript opera sebon

  1. Cyflwyno’r gwrthdaro ar y dechrau. Pennod gyntaf opera sebon ydy’r un sy’n symud gyflymaf. Rhaid i’r gwylwyr gael gwybodaeth gyffredinol am y cymeriadau a rhaid cyflwyno’r gwrthdaro mewn dull sy’n rhoi sioc. Gan amlaf, bydd awgrymiadau am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd er mwyn gwneud i’r gwyliwr ddyfalu. Yna daw’r digwyddiad – damwain, dianc, llofruddiaeth.
  2. Mewn operâu sebon, dydy’r gwrthdaro byth yn cael ei ddatrys mewn un bennod. Bydd yn codi ei ben o bennod o bennod cyn cyrraedd uchafbwynt. Yn y cyfamser, bydd gwrthdrawiadau eraill. Dydy’r rhain ddim yn cael eu datrys yn gyflym chwaith.
  3. Gwneud addewidion a’u cadw. Mae operâu sebon yn enwog am adeiladu tensiwn gyda’r pethau lleiaf, gan gadw’r gwyliwr ar flaen ei sedd. Mae’r ffaith fod operâu sebon yn gwneud addewidion o hyd ac o hyd yn gwneud y gwyliwr yn awyddus i’w gweld yn cael eu cyflawni oherwydd mae’n gwybod y bydd yr opera sebon yn cadw at ei air – bydd bob amser yn gwneud hynny!
  4. Mae’r gwyliwr yn cydymdeimlo gyda’r cymeriadau sy’n cael amser anodd. Gan amlaf, problemau sy’n digwydd yn y gymdeithas o ddydd i ddydd sy’n wynebu’r cymeriadau ac felly mae’r gwyliwr yn gallu uniaethu â nhw. Bydd gan y gwyliwr farn am y sefyllfa a bydd yn trafod tybed beth ddigwyddith i gymeriad gyda’i ffrindiau. Ond bydd yn rhaid parhau i wylio er mwyn gweld pwy sy’n dyfalu’n gywir!
  5. Drama ym mhobman. Bydd cymeriadau operâu sebon yn gwneud môr a mynydd o bopeth! Mae’r mab ddeng munud yn hwyr yn cyrraedd adref. Ei ffonio? Na! Mae wedi cael ei herwgipio neu ei ladd! Ffonio’r heddlu!
  6. Diweddglo penagored. Weithiau, bydd cynnwys pennod yn llusgo ond bydd cliffhanger ar y diwedd a bydd y gwyliwr wedi ei fachu eto!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
gwneud addewidion addo gwneud rhywbeth to make promises
uniaethu teimlo’n debyg to relate
bachu wedi eich dal gan rywbeth hooked