Yn y papur newydd

Rhifyn 36 - Gwrthdaro
Yn y papur newydd

DYDW I DDIM AM BRYNU PAPUR NEWYDD ETO!

 

Do, dw i wedi dod i benderfyniad! Dw i’n 60 oed ac yn dad-cu i bedwar o blant bach bendigedig. Dw i eisiau mwynhau eu cwmni nhw a dw i am iddyn nhw gael bywyd hapus. Ond sut galla i fwynhau eu cwmni nhw os ydw i’n darllen am yr holl wrthdaro sydd yn y gymdeithas a’r holl anfodlonrwydd sydd yn y byd?

 

O dudalen flaen i dudalen ôl ein papurau newydd dyna’r cyfan a gawn ni! Hyd yn oed yn yr hysbysebion!

 

Dyma  enghraifft o ambell dudalen:

 

Paneli solar yn difetha harddwch tirwedd Arfon. Ffermwyr a mewnfudwyr yn anghytuno!

Adeiladu stad o dai ar gyrion Aberteifi yn gwylltio pobl leol

Hen wraig yn ofni mynd i’r siop am fod y rapsgaliwns o bobl ifanc yn ei

Protestwyr yn ceisio torri trwy linellau’r heddlu yn yr Adran Busnes a Sgiliau yn Llundain

Ceisiodd myfyrwyr dorri trwy linellau’r heddlu yn yr Adran Busnes a Sgiliau yn Llundain, Tachwedd 4, 2015 pan oeddent yn protestio yn erbyn toriadau mewn addysg.

Taniodd y protestwyr, oedd yn gwisgo sgarffiau du dros eu hwynebau ac oedd yn dod o bob rhan o Brydain, fflêrs a thaflu paent dros adeiladau’r llywodraeth.

 

 Edrychwch ar y ffotograffau yma o wrthdaro yn y papur newydd! 

O droi at y dudalen hysbysebion a llythyrau, dyma welais i:

LARWM MOSGITO

Offer Gwrth-Sefyllian o Gwmpas

(hollol gyfreithlon)

  • Gwych ar gyfer rhwystro pobl ifanc rhag sefyllian o gwmpas eich ardal
  • Mae’n cynhyrchu sain sy’n mynd ar eich nerfau.
  • Mae’r neges yn glir: Bobl ifanc, ewch o ’ma!
  • Dim weirio, dim ond plygio i’r pwynt pŵer
  • Rhad

Rhybudd!

Nid tegan ydyw, felly peidiwch â chwarae o gwmpas gyda’r offer yma.

Clawdd Newydd,

Trefgan,

Powys

18 Mai 2016

Annwyl Olygydd,

 

Mae hi’n hen stori! Merched yn erbyn dynion! Gwylio Brave gyda fy merch 5 oed wnaeth i fi feddwl!

 

Mae mynediad y ferch i  fyd dynion yn ddeunydd ffilm Disney! Yn Brave mae’r dywysoges ganoloesol, Merida, o’r Alban, yn trechu’r dynion sy’n ei ffansïo hi ac yn profi ei hun yn arweinydd abl iawn. Yn y broses, fodd bynnag, mae hi bron â lladd ei mam.

 

Felly mae hi yn yr unfed ganrif ar hugain pan fydd merched yn rhagori ar ddynion mewn addysg ac ym myd gwaith, ond yn dioddef o’r herwydd. Mae ymchwil wedi profi mai traddodiad sy’n rheoli agwedd y gymdeithas at y ferch a’r dyn a bod merched wedi arfer bod yn ddibynnol tra bydd dynion yn fwy annibynnol.

 

Yn gywir

A. Saunders

Cefnogwyr Aston Villa yn ymosod ar y perchennog, Randy Lerner, gyda siant marwolaeth oedd yn gyrru ias i lawr y cefn.

Yr heddlu’n cael eu galw i dawelu’r sefyllfa wrth i bobl daflu cadeiriau cyn y gêm

Mae tri o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn gwrthdrawiadau treisgar yng nghanol Manceinion cyn y gêm rhwng Manchester City a Sevilla. Cadarnhaodd yr heddlu fod un dyn yn yr ysbyty wedi cael anafiadau i’w ben a thri arall wedi eu harestio.

Dechreuodd yr helynt tua 3.30pm pan wrthdrawodd cefnogwyr Sevilla, oedd yn yfed yn Exchange Square, gyda chefnogwyr Manceinion.