Ffarwel Haf a Haf Bach Mihangel

Rhifyn 37 - Medi
Ffarwel Haf a Haf Bach Mihangel

FFARWÉL HAF

Beth mae’r awel oer yn ei ddweud

Wrth ddail y coed uwch fy mhen?

Mae ganddi newyddion drwg –

‘Mae’r haf wedi dod i ben’

 

Beth mae’r nant yn ei ddweud wrth yr hesg

Ar waelod y Feidir Wen?

Yr un yw ei stori drist –

‘Mae’r haf wedi dod i ben.’

 

Beth mae’r môr yn ei ddweud wrth y traeth,

Lle gynnau bu sŵn y plant?

Yr un ydyw stori’r môr

 stori’r awel a’r nant.

 

Beth yw’r cleber ar frig y to,

Lle mae’r gwenoliaid yn rhes?

‘Mae’r haf wedi dod i ben

A darfu’r heulwen a’r gwres.’

 

‘Mae’r haf wedi dod i ben,’

Yr un yw’r stori bob tro –

Yr adar, yr awel a’r nant,

Rhaid i mi eu coelio, sbo.

 

T Llew Jones.

Ffarwél Haf, T Llew Jones o Penillion y Plant (Gwasg Gomer)

HAF BACH MIHANGEL


Gŵyl Mihangel

 

"Haf bach Mihangel"

Caiff yr ŵyl arbennig yma ei dathlu ar Fedi 29ain. Roedd Gŵyl Fihangel yn arfer bod yn un o ddyddiau pwysicaf y calendr.

Cysylltir yr ŵyl gyda'r dywediad 'Haf Bach Mihangel', os yw'n dywydd braf o gwmpas y cyfnod yma. Dyma’r hyn sy’n cael ei alw yn ‘Indian Summer’ yn Saesneg.

Mae sôn yn y Beibl am Sant Mihangel, lle mae ef a'i lu o angylion yn ymladd gyda'r ddraig. Mae'n symbol o'r frwydr rhwng da a drwg.

Rhoddodd y Pab Gelasius yr ŵyl i Sant Mihangel yn y flwyddyn 487 OC. Yn dilyn hyn bu llawer o ddrychiolaethau o'r Sant o amgylch y byd. Roedd y gweledigaethau yma o hyd yn digwydd ar ben bryniau. Byddai eglwysi’n cael eu codi yno er mwyn anrhydeddu'r Sant.

Mae bwyta gŵydd ar Ŵyl Mihangel yn un traddodiad.  Yn ôl y sôn, bu i'r Frenhines Elisabeth y Cyntaf fwyta gŵydd pan glywodd y newydd am orchfygiad yr Armada Sbaenaidd. Yn dilyn hyn daeth yn arferiad i fwyta'r aderyn yma i ddathlu'r Ŵyl.

Cysylltiad arall gyda'r ŵyl yw na ddylid casglu na bwyta mwyar duon ar ôl Medi 29ain. Yn ôl hen draddodiad, y gred yw bod y Diafol wedi eu gwneud yn anaddas i'w bwyta ar ôl y diwrnod hwn. Mae'n dial gan iddo gael ei luchio o'r nefoedd gan yr Archangel Mihangel a glanio i ganol mieri! Er mwyn dial, credir bod y Diafol yn poeri (neu waeth!) ar y mwyar duon ar y dyddiad yma.

Mae rhai pobl yn credu mai'r hen Ŵyl Mihangel, ar Hydref 10fed yw'r dyddiad i beidio casglu mwyar duon. Ar ôl yr adeg hon maen nhw fel arfer wedi dechrau crino a dydyn nhw ddim ar eu gorau.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Hesg glaswellt hir/ math o frwyn reeds
Feidir ffordd gul lane
Cleber siarad chatter
Darfu wedi gorffen finished
Sbo siwr o fod surely
Gorchfygiad o 'gorchfygu' defeat
Drychiolaethau ysbrydion apparition
Crino crebachu to wither