Medi 16, 1848. Y diwrnod y cafodd gwm cnoi ei gynhyrchu yn ddiwydiannol am y tro cyntaf gan ddyn o’r enw John Curtis. Galwodd y gwm yn ‘State of Maine Pure Spruce Gum’. Ond roedd pobl wedi bod yn cnoi gwm yn ei ffurf naturiol ers miloedd o flynyddoedd. Yr un mwyaf cyffredin oedd lympiau o resin o goed ond roedd pobl yn cnoi gwahanol fathau o laswellt, dail a grawn hefyd. Mastiche fyddai’r hen Roegiaid yn ei gnoi, byddai’r Mayaniaid yn cnoi sudd wedi caledu o’r goeden Sapodilla a byddai Indiaid Gogledd America yn cnoi sudd y goeden sbriws.
Ac rydw innau’n cnoi Wrigley’s! Da ta drwg wnaeth yr hen John Curtis tybed? Cwyn mamgu ydy, ‘Oes rhaid i ti gnoi’r gwm yna? Ti’n edrych fel buwch yn cnoi ei chil!’ Fy ateb parod i ydy ei fod yn dda i’m dannedd. Mae fy neintydd yn dweud hynny hyd yn oed! Mae’n cael gwared ag anadl drwg ac mae’n gallu symud darnau o fwyd a bacteria – sy’n achosi anadl drwg - o’r dannedd. Mae’n gwneud hyn trwy greu salifa sy’n golchi’r geg. Mae cnoi gwm am 20 munud ar ôl pryd o fwyd yn helpu i gadw’r dannedd yn iach medden nhw.
Ateb mamgu ydy fod yr holl gnoi yn gwneud drwg i asgwrn fy ngên. Mae cnoi gormod ar un ochr o’r geg yn achosi poen yn y cyhyr a chur pen, pigyn clust a dannodd. Ond mae mamgu bob amser yn edrych ar yr ochr dywyll!
Efallai fod gan mamgu bwynt oherwydd mewn astudiaeth o 30 o bobl ifanc rhwng 6 a 19 oed oedd yn dioddef o gur pen rheolaidd fe stopiodd y cur pen wedi iddyn nhw roi’r gorau i gnoi gwm am fis. Dechreuodd 26 ohonynt gnoi gwm eto a daeth y poen pen yn ôl.
Ac i fod yn deg â mamgu eto, fedra innau ddim deall pam mae deintyddion o blaid cnoi gwm chwaith oherwydd mae rhai mathau yn llawn siwgwr ac mae pawb yn gwybod pa mor niweidiol ydy siwgwr i ddannedd heb sôn am y ffaith ei fod yn glynu i lenwadau ac yn eu tynnu oddi ar y dant. Mewn gwm di-siwgwr y blasau asidig sy’n erydu’r dannedd.
Mae llawer o bobl yn cnoi gwm i leihau eu hawydd am fwyd ac mae’n help i golli pwysau. Ar y llaw arall, mae deietegwyr yn dweud fod y rhai sy’n cnoi gwm yn llai tebygol o fwyta ffrwythau a llysiau am fod y blas mint yn y gwm yn gwneud i ffrwythau a llysiau flasu’n chwerw.
Wedi dweud hynny, mae gwm cnoi yn cael ei ddefnyddio yn lle bwyd wedi rhai triniaethau meddygol ar y stumog a’r system dreulio. Mae’n ddull o ‘fwydo ffug’ ac mae’n cynhyrchu salifa ac yn deffro’r sudd sy’n treulio bwyd.
Rydw i am orffen gydag un ffaith. Wyddoch chi fod gwm cnoi yn cynnwys lanolin? Stwff fel cŵyr ydy hwn ac mae’n dod o wlân defaid. Wrth gnoi gwm rydych yn cnoi gwlân defaid! Sut mae hynny’n gwneud i chi deimlo?
Gareth Edwards
Cael gwared â gwm cnoi yn Manhattan, Efrog Newydd
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Cnoi ei chil | cnoi o hyd | chewing the cud |
Dannodd | poen dannedd | toothache |