Owain Glyndŵr

Rhifyn 37 - Medi
Owain Glyndŵr

Dowch i ddilyn ôl traed Owain Glyndŵr, Cymraeg

Dowch gyda ni o’r Dwyrain i’r Gorllewin ar draws Cymru fel y gwnaeth Owain Glyndŵr dros 600 mlynedd yn ôl.

Darn o dir oedd wrth wraidd yr holl helynt. Hawliodd estron cyfoethog cyfoethog – arglwydd de Grey - gaeau oedd yn perthyn i berson lleol. Dyna ddigon! Cododd ein harwr lleol ei faner mewn gwrthryfel! Y flwyddyn oedd 1400. I’r gad, Owain Glyndŵr!

 

Yn gyntaf fe ymwelwn â Sycharth, ger Croesoswallt, llys Owain Glyndŵr, Tywysog Powys. Yma roedd yn byw’n fodlon. Roedd yn enwog am y croeso a roddai i feirdd a thrwbadwriaid. Heddiw y cwbl a welwn yw bryncyn gwyrdd a choeden dderwen gydag arfbais Owain Glyndŵr wedi ei hoelio arni. Dywed rhai mai yma mae Owain wedi ei gladdu.

 

I’r gogledd â ni wedyn i gael cipolwg ar gastell prif elyn Owain, yr Arglwydd de Grey, yn Rhuthun. Dyma’r Sais ffroenuchel oedd wedi achosi’r gwrthryfel trwy ddwyn tir. Heddiw adfeilion yw’r castell. Yn nyddiau Owain Glyndŵr rhyw fath o wersyll oedd hwn, garsiwn Seisnig, mewn ardal elyniaethus.

Yr ymosodiad ar Ruthun oedd y cyntaf mewn cyfres o ymosodiadau. Aeth ymlaen i ymosod ar Fflint, Rhuddlan, Holt, Croesoswallt a'r Trallwng.

 

Fe neidiwn yn ôl i’r car ac anelu am Gorwen, tref fechan hyfryd sy’n haeddu ymweliad pe na bai ond am y fynwent a’r eglwys. Yng Nghorwen ar Fedi 16, 1400 cododd Owain ei faner a heidiodd Cymry anfodlon i ymuno ag ef. Ar wal yng nghefn y fynwent mae argraffnod o gleddyf Owain. Tu mewn i’r eglwys mae delw garreg o farchog yn edrych fel pe bai newydd orwedd i gysgu rhwng areithiau tanbaid Owain!

 

Ar Stryd Fawr y dref mae delw drawiadol o Glyndŵr. Mae’n rhyfelwr ar ei geffyl rhyfel, ei wyneb yn dangos ei falchder wrth ddathlu ei fuddugoliaeth, tebyg iawn i Gareth Bale wedi iddo sgorio gôl!

O Gorwen fe awn ymlaen i Fetws-y-Coed ac ymweld â Rhaeadr Ewynnol. Tybed beth fyddai Owain Glyndŵr yn ei ddweud pe bai’n gwybod mai Sais yw perchennog y tir o gwmpas y rhaeadr enwog? A pham ei alw yn ‘Swallow Falls’?

Ym mis Mawrth 1401 llwyddodd byddin Glyndŵr i gipio Conwy oddi ar y Saeson. Dychrynodd hyn Henry IV yn fawr. Felly, i ffwrdd â ni o Fetws-y-Coed i Gonwy. Bydd cerdded waliau’r dref yn wefreiddiol gyda golygfeydd godidog o afon Conwy yn teithio i lawr rhwng bryniau gwyrdd y dyffryn cyn llifo i’r môr. Gallwch deimlo gwefr Owain pan lwyddodd i achub y tir hwn. I lawr o’r waliau a dyma ni yn nhref hynafol Conwy. Wedi gwasgu i mewn i dŷ lleiaf Cymru fe symudwn ymlaen i Harlech.

Er iddo gipio Harlech, methodd Glyndŵr â dod i ddealltwriaeth gyda Henry “Hotspur” Percy ym mrwydr Amwythig yn 1403. Llosgwyd cartref Owain yn Sycharth a thawelodd y gwrthryfel.
A dyna ddiwedd ein taith ninnau! Pryd o fwyd blasus amdani!

GWYBODAETH O LYFR HANES

OWAIN GLYNDŴR

Ganwyd: 1350
Magwyd: Sycharth, ger Llangedwyn ym Mhowys. Yno roedd ef, ei wraig a’i blant yn byw.
Addysg: Llysoedd Cyfreithiol, Llundain

Profiad milwrol: Bu’n gwasanaethu ym myddin Lloegr
Ei Funud Fawr: Cael ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ar Fedi 16eg, 1400 a chychwyn gwrthryfel yn erbyn y Saeson gan sefydlu senedd Gymreig ym Machynlleth.
Diwrnod Owain Glyndŵr: Medi 16eg. Mae ymgyrch i wneud y diwrnod yn wyliau cenedlaethol yng Nghymru.

Y Gwrthryfel:
Atgyfnerthwyd ymdeimlad Owain o Gymreictod pan ddechreuodd ffraeo gyda'i gymydog, yr Arglwydd Grey o Ruthun, un o gyfeillion y Brenin Henry IV. Y ffrae yma arweiniodd at wrthryfel Owain Glyndŵr, ei ymosodiad ar Ruthun a'i gyhoeddi'n Dywysog Cymru. Cyhoeddwyd Owain yn herwr ond fe gynyddodd ei achos. Ymunodd cannoedd o ddynion cyffredin yn ei wrthryfel am annibyniaeth i Gymru a dychwelodd y Cymry alltud i'w gefnogi. Trechwyd nifer o gestyll Seisnig a chynhaliwyd y senedd gyntaf ym Machynlleth ac arwyddwyd cytundebau ffurfiol rhyngwladol gyda Ffrainc a'r Alban.

Enillodd gestyll Cricieth, Aberystwyth a Harlech ac erbyn 1405 roedd ei awdurdod yn cael ei gydnabod drwy Gymru benbaladr. Ond yn dilyn y llwyddiannau, fe ddaeth y methiannau yng Nghastell Grosmont a Phwllmelyn ger Bryn Buga.

Apeliodd Glyndŵr ar Ffrainc am gymorth mewn llythyr a ysgrifennwyd ym Mhennal ger Machynlleth. Mae Llythyr Pennal ar gael heddiw yn Archifdy Cenedlaethol Ffrainc. Mae’r  llythyr yn brawf o weledigaeth Owain am Gymru rydd. Ond er gwaethaf ei holl sgiliau diplomyddol, ni ddaeth ateb o Ffrainc.

Fe frwydrodd Owain i'r pen yn ei gastell olaf sef Harlech yn 1409. Llwyddodd Owain i ddianc. Carcharwyd ei wraig a’i ddwy ferch yn Llundain ac yno y buont farw. Treuliodd Glyndŵr weddill ei ddyddiau gyda'i fab yng nghyfraith Syr John Skydmore yn Kentchurch, Swydd Henffordd.

Yn 1415, gwrthododd gynnig o bardwn. Does neb yn gwybod yn iawn sut y bu farw ac mae lleoliad ei fedd yn ddirgelwch mawr hyd heddiw.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
I’r gad i’r frwydr to battle
Trwbadwriaid beirdd oedd yn crwydro troubadours
Arch elyn prif elyn chief enemy
(G)elyniaethus yn erbyn against
Garsiwn ble mae milwyr yn byw garrison
Argraffnod marc imprint
Cam-ystumio pob siâp contorted
Herwr un sy’n dianc outlaw
Benbaladr o ben i ben from one point to another