Medi 11, 2001, ymosododd y grŵp terfysgol Islamaidd, al-Qaeda, o dan arweiniad Osama bin Laden, ar America. Fe wnaethon nhw herwgipio pedair awyren oedd yn cario teithwyr cyffredin a’u defnyddio fel arfau i chwalu adeiladau.
Lladdodd ymosodiadau Medi 11 2,996 o bobl ac anafu mwy na 6,000 .[1] Roedd y marwolaethau hyn yn y fan a’r lle ac yn cynnwys 265 ar y bedair awyren, 2,606 yng Nghanolfan Masnach y Byd a’r cyffiniau a 125 yn y Pentagon.[2][3] Dyma’r ymosodiadau terfysgol gwaethaf yn hanes y byd a’r ymosodiad tramor mwyaf dinistriol ar dir America er ymosodiad y Siapaneaid ar Pearl Harbour ym mis Rhagfyr 1941.[4]
Ar wahân i’r 71 o blismyn a’r 343 o ddynion tân, sifiliaid oedd pawb a laddwyd yng Nghanolfan Fasnach y Byd ac yn Efrog Newydd .[5] Lladdwyd un plismon pan syrthiodd awyren yr United Airlines Ehediad 93 i gae ger Shanksville, Pennsylvania,[6] 55 swyddog milwrol yn y Pentagon yn Swydd Arlington, Virginia,[7] a 19 o derfysgwyr ar y bedair awyren. Lladdwyd 2,605 o Americanwyr gan gynnwys 2,135 o sifiliaid, heb sôn am y 372 oedd ddim yn Americanwyr. Deuai’r rhain o dros 90 gwlad gan gynnwys Prydain [2][8] (67 marwolaeth), y Weriniaeth Ddominicaidd (47 marwolaeth), ac India (41 marwolaeth).
Yn 2007 dechreuodd y swyddfa feddygol yn Efrog Newydd ychwanegu’r niferoedd o bobl fu farw o ganlyniad i afiechydon gafodd eu hachosi gan lwch y ffrwydriadau at yr ystadegau.
Yna, ym mis Awst 2013, cyhoeddwyd bod 1,140 o bobl oedd yn gweithio neu yn byw yn Lower Manhattan pan ddigwyddodd yr ymosodiad wedi cael diagnosis o gancr o ganlyniad i "ddod i gysylltiad â gwenwynau yn Ground Zero".[14]
Yn union wedi i’r awyren daro lloriau 93 i 99 ar Dŵr y Gogledd roedd yr 8,000 o bobl oedd ar y lloriau o dan y rhai hynny yn wynebu sefyllfa echrydus. Ceisiodd rhai ohonynt ddianc i lawr y grisiau cul oedd yn rhy fach i gymaint o bobl. Arhosodd eraill am gyfarwyddyd. Yn ogystal, wrth i’r awyrennau daro’r tŵr roedd yr adeilad wedi cael ei siglo a’r drysau yn gwrthod agor.
O weld beth oedd yn digwydd yn Nhŵr y Gogledd dechreuodd rhai ddianc o Dŵr y De. Fodd bynnag, rhwng ymosodiad ehediad 11 ac ehediad 175 doedd neb yn sylweddoli mai ymosodiad terfysgol oedd wedi digwydd a rhoddwyd cyfarwyddyd i’r gweithwyr i aros yn eu swyddfeydd.[19] Anwybyddu hynny wnaeth llawer.
Yn y dyddiau wedi’r drychineb roedd yr arogl yn aros. Arogl cig yn llosgi a chorff ar ôl corff yn cael ei gario trwy’r sbwriel.
Roy Pierce, Gweithiwr Tân
Pan oeddem o fewn tua 50 llath o Dŵr y De clywsom sain main uchel popio a wnaeth i bawb aros. Edrychom i fyny a syrthiodd popeth. Mae’n rhaid mai’r rhybedion (rivets) oedd yn agor. Ni allai'r adeilad sefyll heb ei ffrâm, pwysodd tuag atom a dechreuodd syrthio.
Ian Grady, Gweithiwr Tân
‘Roeddwn yn gweithio ar lawr 77 o’r ail dŵr pan glywais sŵn crashio. Pan edrychais trwy’r ffenest gwelais dwll anferth ar ochr dde’r adeilad. Mae’n anodd mynegi beth roeddwn i’n ei deimlo ar y pryd. Sioc, mae’n siŵr. Roeddwn newydd adael cyfarfod ar lawr 78. Pe bawn i dal yno fyddwn i ddim yma heddiw.
Jonathan Weinberg
Rydw i’n cofio teimlo’r ysgytwad a gweld darn o fetel yn hedfan heibio’r ffenest. Wrth redeg oddi yno rhwng yr adeiladau uchel roedd arna i ofn i un ohonynt ddymchwel ar fy mhen.
Ashton Lee
Gweld pobl yn neidio allan o ffenestri sy’n aros yn y cof. Roedd gweld faint o amser gymerai iddynt ddisgyn yn swreal. Rydw i’n cofio meddwl pa mor enbyd oedd hi i fyny yno os mai neidio i’ch marwolaeth oedd y dewis gorau. Rydw i hefyd yn cofio meddwl sut ar y ddaear oedden nhw’n mynd i ddiffodd y tanau. Yna daeth rhyw riddfan sgrechlyd fel pe bai Duw wedi cael gafael ar lond llaw o drawstiau haearn a’u rhwygo. Y tyrau yn dymchwel.
Rob Gegg
Yn ôl yr arfer, roedd yr oriau brig yn eu hanterth am 8.30 y bore a minnau’n syllu trwy ffenest fy llofft yng ngwesty moethus Hilton y Mileniwm gyferbyn â’r Tyrau.
Roedd yn fore hyfryd a miloedd o ddynion a merched trwsiadus yn cyrraedd eu swyddfeydd ledled Efrog Newydd. Pob un â’i stori, pob un â’i fywyd o’i flaen. Roedd mwyafrif y rhai a welwn i yn gweithio i’r amryw fusnesau rhyngwladol llwyddiannus oedd â swyddfeydd yng Nghanolfan Fasnach y Byd. Gallwn weld y ddau dŵr uchel, 110 llawr o uchder, y symbolau llawn balchder a menter. Heddiw, yn ôl yr arfer, byddai dros 50,000 o bobl yn gweithio yno.
Stereoteip o ymwelydd oeddwn i yn tynnu lluniau o’r olygfa fyrlymus nes i mi glywed sŵn awyren yn nesáu. Sŵn digon cyffredin i ddechrau nes iddo droi’n rhu ac yna ffrwydrad anferth.
Syllais drwy’r ffenest wrth i ddifrifoldeb y sefyllfa wawrio arnaf. Syllu a syllu wrth sylweddoli bod pobl wedi eu dal ar y lloriau uwchben y ffrwydrad. Fe’u gwelais yn taflu byrddau, cadeiriau a chyfrifiaduron trwy’r ffenestri i chwalu’r gwydr i gael aer. Roedden nhw’n hongian o’r ffenestri. Yna’r golygfeydd gwaethaf – pobl yn neidio. Neidio i’w marwolaeth i osgoi cael eu llosgi’n fyw. A doedd dim y gallwn i ei wneud. Dim ond gwylio’r darnau o fetel a thunelli o bapur yn hedfan o dyllau’r ffenestri, gwrando ar y concrid a’r dur yn crensian a syllu a syllu trwy gymylau o lwch ar y bobl.
Dywedwyd wrthym am aros yn yr adeilad gan fod cymaint o bethau’n chwyrlїo o gwmpas. Mi wnes i gynnau'r teledu i gael newyddion. Ar y pryd roeddwn yn meddwl mai damwain ydoedd. Ond yna clywais sgrech yr ail awyren.
Y tro hwn roedd y ffrwydrad yn uwch ac yn nes ac ysgydwodd y gwesty. Yn sydyn, sylweddolais bod rhywbeth mawr o’i le. Roedd yn rhaid dianc.
Fy ymateb cyntaf oedd rhedeg dim ots i ble. Wnes i ddim newid o’m dillad nos hyd yn oed, heb sôn am fynd ag unrhyw eiddo gyda mi.
Roedd gwesteion eraill yn llifo o’u hystafelloedd, yn panicio ac yn brwydro am le mewn lifftiau gorlawn. Daeth cyfarwyddyd dros yr uchelseinydd i adael yr adeilad ar frys.
Wedi cyrraedd y cyntedd cawsom ein harwain i ddrws ochr. Anghofia i fyth mo’r daith wedyn trwy’r sbwriel, heibio i gyrff, y mwg a’r llwch yn llosgi f’ysgyfaint a’m traed noeth yn gwingo a gwaedu wrth gerdded trwy’r sbwriel.
O’r diwedd cyrhaeddais Battery Park ble’r oeddwn wedi dal fferi y diwrnod cynt a mynd gyda channoedd o ymwelwyr cynhyrfus eraill i ryfeddu at y Cerflun Rhyddid. Heddiw, pobl bryderus ar eu ffonau symudol yn clustfeinio am y newyddion diweddaraf oedd yn llenwi’r parc.
Roedd miloedd o bobl yn dianc dros y pontydd ond swatio ar lan yr afon wnes i gan feddwl y gallwn nofio pe bai raid. Cyn bo hir, fodd bynnag, daeth cwch yr heddlu i’n cludo i ddiogelwch.
Bu’n rhaid i mi aros yn Efrog Newydd am bythefnos yn ychwanegol ond rydw i wedi bod yn ôl ddwywaith. Wedi’r cyfan, mae rhannu profiadau mor erchyll yn gwneud i mi deimlo mod i’n perthyn i’r lle.
Mary Hare.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Terfysgol | rhywbeth sy’n creu cynnwrf | terrorism |
Ehediad | flight | |
Rhu | sŵn uchel | roar |
Gwesteion | pobl sy’n aros mewn gwesty | guests |
Chwyrlїo | troi a throi | whirl |
Cerflun Rhyddid | Cerflun Rhyddid |