A yw hi’n werth gwario arian ar opera?

Rhifyn 38 - Arian
A yw hi’n werth gwario arian ar opera?
26 Medi 2016

Dyma ddau lythyr sy’n mynegi dau safbwynt gwahanol.

 

Annwyl Olygydd,

 

Mae hi’n adeg anodd yn ariannol, gyda thoriadau’n digwydd ym mhob maes. Clywn am gymaint o dorri’n ôl: llyfrgelloedd yn cau, canolfannau hamdden yn agor am lai o oriau, llai o wasanaethau bysus, dosbarthiadau mewn ysgolion yn mynd yn fwy, rhestrau aros mewn ysbytai’n tyfu, llai o ofal i’r henoed, ac ati. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

 

Felly, ar adeg o gyni ariannol, oes modd cyfiawnhau’r swm mawr o arian cyhoeddus – bron i £11m – y mae’r Cwmni Opera Cenedlaethol yn ei dderbyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr bob blwyddyn?  Pam mae angen gwario cymaint o arian cyhoeddus ar rywbeth elitaidd fel opera? Rhywbeth i’r crach yw opera, y math o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Oni fyddai’n well cael llai o opera a mwy o wasanaethau hanfodol i’n cymunedau bregus ni ledled Cymru?

 

Yn gywir,

Ben Morris

26 Medi 2016

Annwyl Olygydd,

 

Hoffwn ymateb i lythyr Ben Morris sy’n honni na allwn ni fforddio rhoi rhagor o arian cyhoeddus i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

 

Yn bendant, mae modd cyfiawnhau’r £11m o arian cyhoeddus y mae’r Cwmni Opera Cenedlaethol yn ei dderbyn. Fel y gwyddoch, mae cartref y cwmni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae dros 200 o staff parhaol yn cael eu cyflogi, gyda 40 o gantorion yn y corws, a 55 cerddor yn y gerddorfa. Mae’r cwmni’n perfformio i 120,000 o bobl mewn 10 lleoliad drwy Gymru a Lloegr yn flynyddol. Yn ogystal, mae’n mynd allan i gymunedau llai i berfformio i bobl ifanc. Felly, ai rhywbeth elitaidd yw opera mewn gwirionedd?

 

At hyn, rhaid cofio, er bod y Cwmni Opera’n derbyn lawer o arian, ei fod yn cyfrannu i’r economi hefyd. Mae adeilad fel Canolfan Mileniwm Cymru yn cynhyrchu incwm mawr yng Nghaerdydd, i fwytai a gwestai ac ati, hyd at bum gwaith yr arian y mae’r Cwmni Opera yn ei dderbyn, yn ôl rhai. Felly, mae’r buddsoddiad yn talu ar ei ganfed!

 

Mae’n costio llai i weld opera nag y mae’n ei gostio i weld gêm rygbi: y llynedd, £28.50 oedd cyfartaledd pris tocyn. Faint yw cost mynd i weld gêm rygbi erbyn hyn? Yn ogystal, mae rhai o dan 30 oed yn gallu dewis eu seddi am £5 yn unig. Mae hyn yn denu llawer o bobl ifanc i weld opera a mwynhau pethau gorau bywyd.

 

Yn ddiweddar, clywais fod David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni Opera Cenedlaethol wedi dweud bod perygl y byddwn ni’n ‘troi’n ôl yn anifeiliaid’ os na fyddwn ni’n rhoi arian cyhoeddus i sefydliadau celfyddydol. Dywedodd fod y gymdeithas yn creu digon o arian dros ben i dalu am bethau hyfryd fel y celfyddydau, a heb y pethau hyn, byddem yn troi’n ôl yn anifeiliaid. Rwy’n cytuno gant y cant.

 

Felly, yn bendant, mae modd cyfiawnhau’r arian cyhoeddus sy’n cael ei roi i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

 

Yn gywir,

Marilyn Hughes