Arian poced

Rhifyn 38 - Arian
Arian poced

A ddylech chi weithio i gael arian poced? 

Dyma sylwadau pobl ifanc am arian poced.      

Beth Beth

Dydw i ddim yn credu y dylwn i weithio er mwyn cael arian poced. Pam dylwn i wneud gwaith i gael arian poced? Rwy’n haeddu cael arian poced heb fod rhaid gweithio amdano.

Owain Owain

Rwy’n fodlon tacluso fy ystafell er mwyn cael arian poced, ond dim mwy.

Rhodri Rhodri

Rwy’n credu bod Mam yn defnyddio arian poced fel ffordd i’n cael ni i wneud gwaith tŷ. Ar hyn o bryd mae fy mrawd a minnau’n mynd â’r ci am dro ac yn golchi’r car.

Sara Sara

Rwy’n cael arian poced am roi’r dillad ar y lein i sychu ac am roi’r bin a’r ailgylchu o flaen y tŷ. Does dim gwahaniaeth gen i wneud hyn. Mae fy rhieni’n gweithio ac rwy’n fodlon eu helpu yn y tŷ.

Lewis Lewis

Mae Dad yn rhoi mwy o arian na Mam. Rwy’n cael £3.50 gan Dad am olchi’r car, ond dim ond £1.50 mae Mam yn ei roi am dacluso’r ystafell.

Tomos Tomos

Rwy’n cael gwersi piano, ond roeddwn i’n casáu ymarfer. Felly, dechreuodd Dad roi arian poced i mi am ymarfer ac rwy’n ymarfer mwy nawr. Ond mae’n fy llwgrwobrwyo, a bod yn onest.

Mari Mari

Rwy’n bargeinio gyda fy rhieni am arian poced os ydw i’n gweithio amdano. I ddechrau, rwy’n gofyn am swm mawr. Fel arfer maen nhw’n fodlon cwrdd yn y canol os ydw i’n dweud fy mod i’n fodlon hwfro neu rywbeth.

Beca Beca

Rwy’n credu bod gweithio i gael arian poced yn beth da. Mae’n eich dysgu chi i ddeall bod arian ddim yn dod am ddim. Fel mae Mam yn dweud, “Dydy arian ddim yn tyfu ar goed”.

10 uchaf y tasgau y mae rhieni eisiau i’w plant eu gwneud er mwyn cael arian poced:   

  1. Tacluso’r ystafell wely
  2. Llenwi a gwacáu’r peiriant golchi llestri, golchi llestri a chlirio’r bwrdd ar ôl bwyta
  3. Ymddwyn yn dda
  4. Gwneud gwaith cartref neu ymarfer offeryn cerdd
  5. Hwfro
  6. Gofalu am anifail anwes
  7. Glanhau ystafell (heblaw am eu hystafell wely)
  8. Rhoi dillad yn y peiriant golchi, a rhoi’r dillad ar y lein ddillad
  9. Rhoi’r sbwriel a’r ailgylchu’n barod i’w gasglu
  10. Golchi’r car