Gwneud bywoliaeth ar y we!

Rhifyn 38 - Arian
Gwneud bywoliaeth ar y we!

Gwneud bywoliaeth ar y we!

 

Oes rhaid cael ‘swydd go iawn’ i wneud bywoliaeth? Mae’n debyg fod eich athrawon a phobl gartref yn dweud wrthoch chi am weithio’n galed yn yr ysgol er mwyn cael ‘swydd go iawn’. Ond beth yw ‘swydd go iawn’ y dyddiau hyn?

 

Dyma rai enghreifftiau o bobl ifanc sydd wedi gwneud ffortiwn drwy ddefnyddio’r we.

 

PewDiePie, 26 oed 

Felix Kjellberg yw ei enw go iawn, ond PewDiePie yw ei enw ar YouTube. Mae’n dod o Sweden yn wreiddiol. Ei sianel yw’r un fwyaf poblogaidd ar YouTube, gyda 46 miliwn o bobl yn tanysgrifio iddi. Mae o’n werth £14 miliwn.

 

Beth mae o’n ei wneud?

Mae’n recordio ei hun yn chwarae gemau fideo ac yn gwneud sylwadau amdanyn nhw. Mae’n ymateb yn ddoniol iawn weithiau, a dyna pam mae ei fideos yn boblogaidd.

 

Beth yw barn ei rieni?

Doedden nhw ddim yn hapus yn wreiddiol. Pan oedd PewDiePie yn yr ysgol, byddai’n chwarae triwant ac yn mynd i chwarae gemau fideo gyda’i ffrindiau mewn caffi lleol.

 

Er iddo fynd i’r brifysgol i astudio, penderfynodd adael pan ddechreuodd ei fideos ar YouTube ddod yn boblogaidd.

 

“I ddechrau, roedd fy rhieni’n gandryll. Dywedon nhw na fydden nhw’n rhoi arian i mi i fyw, ac roedd rhaid i mi werthu cŵn poeth er mwyn dal deupen llinyn ynghyd.” 

 

Erbyn hyn, mae’n byw yn Brighton, Lloegr, a dydy ei rieni ddim yn poeni mwyach. Maen nhw’n sylweddoli ei fod yn graig o arian!

 

 

Jamal Edwards, MBE, 25 oed

 

 

Mae Jamal Edwards yn dod o orllewin Llundain. Mae’n rapiwr ac mae’n berchennog SBTV* – cwmni darlledu sy’n gwneud fideos cerddoriaeth a rap, ac yn eu rhoi ar YouTube. Mae o’n werth tua £8 miliwn.

 

Sut mae’n gwneud arian?

Mae miliynau o bobl yn edrych ar fideos SBTV ac ar yr hysbysebion sy’n ymddangos gyda nhw. Felly, mae cwmni Jamal yn cael canran o’r arian y mae YouTube yn ei ennill am hysbysebion.

Sut dechreuodd pethau?

Cafodd gamera fideo syml yn anrheg Nadolig pan oedd yn 15 oed. Dechreuodd ffilmio ffrindiau’n rapio neu’n canu, ac yna byddai’n lanlwytho’r fideos i YouTube er mwyn i ffrindiau eraill eu gweld.

Gadawodd yr ysgol a mynd i weithio yn Topman. Yn ei amser hamdden byddai wrthi’n brysur yn gwneud fideos. Dechreuodd mwy a mwy o bobl wylio’r fideos, felly sefydlodd gwmni SBTV a chyn hir, roedd cannoedd o filoedd o bobl ifanc yn gwylio.

 

Felly, cysylltodd Jamal â YouTube i weld a oedd ganddo hawl i ychydig o arian yr hysbysebion. Gwrthododd YouTube dair gwaith, ond daliodd Jamal ati. Profodd mai ei waith gwreiddiol ef oedd y fideos ac anfonodd YouTube siec o ychydig gannoedd o bunnau ato.

 

“Doedd fy rhieni ddim yn hapus i ddechrau achos doedd dim digon o arian i wneud bywoliaeth. Ond o dipyn i beth, aeth y sieciau’n fwy ac yn fwy. Yn y pen draw, gadewais Topman a mynd i redeg SBTV yn llawn amser.”

 

Erbyn hyn mae Jamal yn cyflogi 12 aelod o staff. Mae gan SBTV ei gwefan ei hun ac arni storïau newyddion ac erthyglau, yn ogystal â fideos. Hefyd, mae Jamal wedi lansio ei label dillad ei hun ac mae wedi cyhoeddi e-lyfr o’r enw Self Belief: The Vision.

 

Cyngor Jamal, “Rhowch gynnig ar unrhyw beth, peidiwch ofni methu. Yr unig bryd rydych chi’n methu yw os nad ydych chi’n rhoi cynnig arni. A phan fyddwch chi’n dod o hyd i rywbeth rydych chi’n dda iawn am ei wneud, ewch amdani.”

 

*(SB = SmokeyBarz, llysenw rapio Jamal ei hun)