Mae bechgyn yn cael mwy o arian poced na merched!

Rhifyn 38 - Arian
Mae bechgyn yn cael mwy o arian poced na merched!

 

Bechgyn yn cael mwy o arian poced na merched

 

Mae bechgyn yn cael mwy o arian poced na merched, yn ôl arolwg blynyddol gan fanc Halifax.

 

Roedd yr arolwg o arian poced yn cynnwys dros 1,800 o blant a 575 rhiant ledled Prydain. Ar gyfartaledd, roedd plant rhwng 8 a 15 oed yn cael £6.55 o arian poced yr wythnos. Ond roedd gwahaniaeth amlwg rhwng y swm mae bechgyn a merched yn ei gael. Roedd bechgyn rhwng 8 a 15 oed yn cael £6.93 yr wythnos, a merched yn cael £6.16 ar gyfartaledd.

 

Yn ôl yr arolwg, roedd 40% o’r plant yn meddwl y dylen nhw gael rhagor o arian, ond roedd bechgyn yn fwy tebygol na merched o gwyno ac o ofyn am ragor o arian poced. Roedd y bechgyn yn dweud wrth eu rhieni eu bod nhw’n haeddu cael rhagor o arian.

 

Yn ôl un sylwebydd, “Byddai’n ddiddorol gweld a yw rhieni’n gwahaniaethu rhwng bechgyn a merched o fewn un teulu. Efallai nad yw rhieni’n sylweddoli eu bod nhw’n rhoi mwy o arian i fechgyn na merched.”

 

Mae’r ffaith fod bechgyn yn cael mwy o arian poced na merched yn adlewyrchu’r sefyllfa yn y  gweithle. Er bod Deddf Cyflog Cyfartal, 1975 yn dweud bod rhaid i fenywod a dynion gael yr un cyflog am yr un gwaith, mae dynion fel arfer yn ennill mwy o arian na menywod. Yn wir, mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod bwlch o 9.4% rhwng cyflogau dynion a menywod.

 

Yn y gweithle hefyd, mae dynion yn fwy tebygol o ofyn am ragor o arian, ac mae menywod yn fwy tebygol o aros tan y byddan nhw’n cael cynnig codiad cyflog.

 

Yn ôl Hannah Maundrell, prif olygydd gwefan money.co.uk, “Dydy’r bwlch rhwng arian poced bechgyn a merched ddim yn newyddion da o gwbl. Mae angen i ferched fod â digon o hyder i fargeinio ac i holi am ragor o arian poced. Dyma’r cyfle i ymarfer fel y gallan nhw wneud yr un fath pan fyddan nhw’n hŷn a holi am ragor o gyflog yn y gweithle.”

 

Dyma rai ffeithiau eraill o’r arolwg:

 

  • Mae 89% o rieni Prydain yn credu y dylai plant ddechrau cael arian poced pan fyddan nhw’n chwech i saith mlwydd oed.
  • Roedd bron 80% o’r plant yn yr arolwg yn cynilo rhywfaint o’r arian, gyda 12½% yn cynilo eu harian i gyd.

 

Mae peth gwahaniaeth rhwng cyfartaledd yr arian poced y mae plant 8–15 oed yn ei gael mewn gwahanol rannau o Brydain:

 

  • Llundain, £8.21
  • Yr Alban, £7.06
  • De Ddwyrain Lloegr, £6.83
  • Gogledd Orllewin Lloegr, £6.68
  • Gogledd Ddwyrain, £6.51
  • Cymru, £6.44
  • De Ddwyrain Lloegr, £6.36
  • Gorllewin Canolbarth Lloegr, £5.84
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr, £5.33
  • Dwyrain Anglia, £4.96