Tlodi yng Nghymru

Rhifyn 38 - Arian
Tlodi yng Nghymru

Dyma gerdd gan wirfoddolwr mewn banc bwyd.

Pobl y Banc Bwyd

Mae rhai yn plygu’u pennau

Wrth gyrraedd y tro cyntaf.

Wynebau’n llawn cywilydd:

Hwn ydy’r dewis diwethaf.

 

Fe gollodd Non ei hiechyd

Ac yna’i swydd, ac felly

Heb y banc bwyd mi fyddai

Ei phlant hi bron â llwgu.

 

Mae Huw yn gorfod dewis

Rhwng gwres a bwyd yn gyson.

Mae’n methu fforddio’r ddeubeth:

Mae bron â thorri’i galon.

 

Er bod Myfanwy’n brysur,

A’i dwy swydd yn ei blino,

Ni all hi fwydo’r teulu

Er gwaethaf yr holl weithio.

 

Fy ngobaith yw cael helpu

Y rhain drwy gyfnod caled

Mae’n gysur iddynt wybod

Bod yma ddrws agored.

 

 

Darn o wybodaeth

Mae gan Ymddiriedolaeth Trussell 424 banc bwyd. Mae’r ffigurau dangos bod 1,109,309 pecyn bwyd argyfwng wedi’u rhoi i bobl yn 2015/16. Mae hyn 2% yn fwy nag yn 2014/15.