Ydych chi’n dda gydag arian?

Rhifyn 38 - Arian
Ydych chi’n dda gydag arian?

Ydych chi’n dda gydag arian?

 

Atebwch yr holiadur hwn ar eich pen eich hun. Yna, edrychwch ar yr Allwedd i weld pa mor dda rydych chi’n trin arian.

 

  1. Sut rydych chi’n cael eich arian?

a. Rwy’n cael arian poced bob wythnos.

b. Rwy’n defnyddio arian pen-blwydd neu arian Nadolig oddi wrth fy nheulu

c. Rwy’n gweithio (e.e. rownd bapur, o gwmpas y tŷ) i ennill arian.

 

  1. Pa mor aml rydych chi’n prynu losin?

a. Rwy’n prynu losin bob dydd.

b. Rwy’n prynu losin o leiaf unwaith yr wythnos.

c. Dydw i byth yn prynu losin.

 

  1. Pa mor aml rydych chi’n prynu dillad?

a. Rwy’n prynu dilledyn o leiaf unwaith y mis.

b. Rwy’n prynu dilledyn bob dau neu dri mis.

c. Dydw i byth yn prynu dillad; mae fy rhieni’n eu prynu.

 

  1. Beth wnewch chi fel arfer os cewch chi arian yn anrheg?

a. Rwy’n ei wario i gyd.

b. Rwy’n gwario ychydig ac yn cynilo ychydig.

c. Rwy’n cynilo’r cyfan.

 

  1. Os ydych chi eisiau prynu rhywbeth drud, beth wnewch chi fel arfer?

a. Rwy’n gofyn am arian gan aelod o’r teulu.

b. Rwy’n benthyg arian gan aelod o’r teulu, i’w dalu’n ôl wedyn.

c. Rwy’n cynilo arian nes byddaf yn gallu ei fforddio.

 

  1. Faint o ymchwil rydych chi’n ei wneud cyn prynu rhywbeth arbennig, e.e. i weld ble mae’r pris rhataf?

a. Dydw i ddim yn gwneud ymchwil, rwy’n prynu yn y siop gyntaf neu o’r safle we gyntaf rwy’n ei gweld. Does dim gwahaniaeth os ydw i’n talu’r pris drutaf.

b. Rwy’n gwneud peth ymchwil ond mae gallu prynu’n gyflym yn bwysicach nag arbed arian.

c. Rwy’n gwneud llawer o ymchwil ac yn talu’r pris rhataf bob tro.

 

  1. Ydych chi’n dueddol o brynu rhywbeth rydych chi’n digwydd ei weld?

a. Ydw, yn aml.

b. Ydw, weithiau.

c. Nac ydw, byth.

 

  1. Ydych chi’n mynd i siopau elusen i brynu llyfrau/dillad ac esgidiau/cerddoriaeth?

a. Nac ydw, byth.

b. Ydw, weithiau.

c. Ydw, yn aml.

 

  1. Ydych chi’n mynd i’r llyfrgell i fenthyg llyfrau/DVDau/CDau?

a. Nac ydw, byth.

b. Ydw, weithiau.

c. Ydw, yn aml.

 

  1. Oes arian gyda chi wedi’i gynilo?

a. Nac oes, does gen i ddim arian wedi’i gynilo o gwbl.

b. Oes, mae gen i ychydig bach o arian wedi’i gynilo.

c. Oes, mae gen i dipyn o arian wedi’i gynilo.

 

Allwedd:

 

Atebion a) yn bennaf: Rydych chi’n cael eich arian heb weithio amdano, ac rydych chi’n gwario arian fel dŵr! Does dim gwahaniaeth gyda chi dalu’r pris drutaf. Dydych chi ddim yn cynilo. Cofiwch eich bod yn gallu prynu pethau’n rhad mewn siop elusen, neu fenthyg llyfrau, DVDau a CDau am ddim o’r llyfrgell. Mae angen i chi feddwl am y ffordd rydych chi’n trin arian, neu gallech chi gael problemau yn y dyfodol.

 

Atebion b) yn bennaf: Rydych chi’n gallu trin arian yn dda. Dydych chi ddim yn gorwario ac rydych chi’n cynilo peth arian. Rydych chi’n defnyddio siopau elusen a’r llyfrgell weithiau er mwyn arbed arian. Edrychwch eto ar yr atebion lle rydych chi wedi ateb a) i weld beth allech chi ei wneud i wella pethau.

 

Atebion c) yn bennaf: Rydych chi’n ofalus iawn gydag arian. Dydych chi ddim yn gwario os nad oes rhaid i chi, ac os ydych chi’n prynu rhywbeth arbennig, rydych chi’n gwneud ymchwil i ddod o hyd i’r pris rhataf. Rydych chi’n cynilo arian. Ond peidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi eich hun: mae’n iawn i chi gael ambell ddilledyn newydd neu losin weithiau.