Gwêl y môr

 Tŷ ar ei ben ei hun, yng nghanol cefn gwlad Cymru

Yr ardal:

Mae’r tŷ mewn lleoliad ardderchog, wrth ochr y B456, y ffordd sy’n rhedeg ar hyd yr arfordir, ac felly mae ganddo olygfa anhygoel o’r môr. Mae’r tŷ o fewn pum munud i’r dref mewn car, ac felly mae’n hawdd cyrraedd yr ysgolion, y siopau, yr ysbyty, y theatr a’r sinema. Mae gwasanaeth bysiau rheolaidd. 

Y tŷ

Lawr llawr: ystafell fyw fawr, gyda ffenestri llydan sy’n edrych dros y môr; cegin; tŷ bach a chyntedd

I fyny’r grisiau: dwy ystafell wely fawr, ystafell ymolchi a thŷ bach ar wahân 

Mae hwn yn dŷ eco:

  • Mae e wedi cael ei adeiladu o ddefnyddiau sydd wedi eu hailgylchu.
  • Mae gwlân defaid yn y waliau i’w hynysu.
  • Mae’r toiledau’n compostio’r gwastraff.
  • Mae gwydro triphlyg (tair haen o wydr) yn y ffenestri.
  • Mae porfa / glaswellt ar y to i’w ynysu.
  • Mae paneli solar yn yr ardd.
  • Mae’r dŵr yn dod o ffynnon leol. 

Tu allan

Digon o dir ar gyfer creu gardd ac adeiladu garej 

Pris: £450 000 

Brysiwch. Mae llawer o ddiddordeb yn y tŷ hwn ac felly y cyntaf i’r felin gaiff falu.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
lleoliad lle position
golygfa yr hyn sydd i’w weld scenery
cyntedd yr ystafell gyntaf mewn rhai tai; weithiau mae pobl yn hongian cotiau yma hallway
ar wahân ar ei ben ei hun separate
lleol yn yr ardal local
ynysu cadw’r gwres i mewn a’r oerfel allan yn y gaeaf; cadw’r gwres allan er mwyn cadw’r tu mewn yn oeraidd yn yr haf to insulate
gwydro triphlyg tair haen o wydr triple glazing
y cyntaf i’r felin gaiff falu y cyntaf fydd yn llwyddo – y person cyntaf i gynnig pris teg am y tŷ fydd yn ei gael first come first served