Edrychwch ar y sioe sleidiau yma ac yna ewch i Dasg 1.
Mae rhai pobl yn byw mewn lleoedd diddorol iawn – ar ben mynyddoedd, mewn ogofâu, o dan y ddaear, hyd yn oed ar ganol cylchfan. Mae rhai pobl yn byw yn y gofod yn yr orsaf wyddonol ryngwladol hefyd.
Wel, beth am y syniad o fyw o dan y môr? Mae pobl yn bwyta o dan y môr ac yn mynd ar eu gwyliau o dan y môr eisoes, fel mae’r sleidiau’n dangos. Felly mae’n siŵr bod byw o dan y môr yn bosib hefyd.
Mae’r syniad yn dod yn eitha poblogaidd mewn rhai rhannau o’r byd – yn enwedig yn y Dwyrain Canol. Yn Dubai, er enghraifft, mae tai rhyfeddol yn cael eu cynllunio.
Mae tair lefel i’r tai hyn:
Beth sydd ar bob lefel?
O dan y môr:
Ar lefel y môr
Y llawr uchaf
Gan fod y cartrefi tua dwy filltir a hanner o’r lan, rhaid teithio ar gwch neu awyren fach i’w cyrraedd.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ogofâu | lluosog ogof: tyllau mawr mewn creigiau | caves |
cylchfan | ynys ar ffurf cylch lle mae nifer o ffyrdd yn dod at ei gilydd | roundabout |
yr orsaf wyddonol ryngwladol | gorsaf yn y gofod lle mae gwyddonwyr yn cynnal arbrofion | the international space station |
am gyfnodau | am beth amser | for periods of time |
rhyfeddol | arbennig iawn, iawn | wonderful, amazing |
nenfwd | to’r ystafell | ceiling |
chwyrlïo | troi o gwmpas yn gryf, troelli | to whirl |