“Pam dw i’n gorfod aros fan hyn?” mae Ali yn gofyn. “Dw i’n gallu siarad pedair iaith a dw i’n ddoctor yn fy ngwlad fy hun. Pam na cha i fynd ymlaen i Ewrop lle galla i helpu pobl a lle galla i roi cartref go iawn i ‘ngwraig a ‘mhlant?”
Mae Ali, fel miloedd o ddynion tebyg, wedi ffoi o’i gartref oherwydd ymladd yn y dref lle roedden nhw’n byw.
“Doeddwn i ddim eisiau gadael,” meddai. “Dyna ble roedd fy nghartref i. Dyna ble roedd fy ngwreiddiau i. Dyna ble ces i fy ngeni a’m magu. Dyna ble wnes i briodi a dyna ble cafodd fy nau fab eu geni. Dyna ble roedden ni’n hapus fel teulu. Dewch i gyfarfod â nhw,” mae’n fy ngwahodd.
Y gwersyll
Tu allan i’w pabell, mae Anissa, ei wraig, yn eistedd o flaen tân bychan. Gerllaw, mae eu dau fab yn cicio pêl, heb ddangos unrhyw awch na mwynhad. Maen nhw’n fy ngweld … ac yn fy anwybyddu. Wrth i fi agosáu, mae Anissa yn edrych i fyny o’r tân am eiliad ac yn rhoi gwên wan, ddideimlad i fi.
“Rydyn ni’n poeni am y plant,” mae Ali’n dweud. “Dylen nhw fod yn yr ysgol. Dw i’n trio eu dysgu nhw ond heb lyfrau mae hynny’n anodd. Rydyn ni’n poeni am y ffrindiau maen nhw’n eu gwneud hefyd. Mae bywyd yn anodd fan hyn.”
“Mae bywyd yn anodd fan hyn!” Dyna ddweud y cyfan mewn chwe gair - ond dydyn nhw ddim yn ddigon i gyfleu pa mor ofnadwy yw bywyd yn y lle annynol hwn. Budreddi … salwch … drewdod … pobl yn ymladd er mwyn cael gweld meddyg … merched yn golchi dillad mewn powlenni wrth ochr tap cymunedol. Does dim preifatrwydd. Does dim hunan-barch yma.
“Dyma gartref am y tro … ond ryw ddiwrnod, pwy a ŵyr?” mae Ali’n cysuro’i hun, wrth i fi adael.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
gerllaw | yn agos | nearby |
anwybyddu | ddim yn cymryd sylw | to ignore |
annynol | heb unrhyw deimlad dynol | inhuman |
budreddi | enw sy’n gysylltiedig â budr: rhywbeth sy’n fudr / brwnt | dirt |
cymunedol | rhywbeth mae’r gymuned yn ei rannu | community |
Pwy a wyr? | Pwy sy’n gwybod? | Who knows? |
cysuro | calonogi, ceisio lleihau gofid | to comfort |