Tŷ NA

 

Ydych chi’n hoffi mynd i’ch ystafell i guddio weithiau – i ddianc rhag pawb? Wel, peidiwch â mynd i fyw yn y tŷ yma oherwydd does dim unman i guddio yma. Dyma’r tŷ tryloyw.

Mae’r tŷ tryloyw hwn yn Tokyo, Japan, yn wahanol iawn i unrhyw dŷ arall sydd yn yr un stryd. Yn lle waliau o flociau concrit, mae’r waliau wedi eu gwneud o wydr ac mae hyn, wrth gwrs, yn gwneud y tŷ’n dryloyw. 

Sou Fujimoto yw’r pensaer gynlluniodd y tŷ ac roedd e eisiau creu’r syniad o fyw tu mewn i goeden. Felly, tri phrif lawr sydd i’r adeilad, ond rhwng y rhain mae 21 o ‘blatiau llawr’ neu blatfformau, gyda grisiau neu ysgolion yn eu cysylltu â’i gilydd. Mae symud rhyngddyn nhw fel sboncio o gangen i gangen ar goeden. 

Mae’r tŷ wedi ei adeiladu o gwmpas ffrâm o ddur. Does dim llawer o waliau ond gan eu bod wedi eu gwneud o wydr, rydych chi’n gallu gweld beth mae pobl yn ei wneud mewn rhannau eraill o’r tŷ drwy’r amser. Nid hynny’n unig, mae unrhyw un sy’n mynd heibio ar y stryd yn gallu gweld beth rydych chi’n ei wneud hefyd. Felly, does dim unman i guddio!

Sou Fujimoto - House NA gan eager; fe'i defnyddir o dan CC BY.

Sou Fujimoto - House NA gan eager; fe'i defnyddir o dan CC BY.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
tryloyw Mae rhywbeth sy’n dryloyw yn gadael y golau drwyddo, felly mae’n bosib gweld drwyddo. transparent
pensaer person sy’n cynllunio adeiladau architect
sboncio neidio’n ysgafn to spring, skip
dur metel wedi ei wneud o haearn a charbon; metel cryf iawn steel