Annwyl ddyddiadur …

Rhifyn 40 - Blwyddyn gron
Annwyl ddyddiadur …

01 Rhagfyr, 2016

 

Annwyl ddyddiadur, 

Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddiddrwg ddidda. 

Y pethau da:

Aethon ni ar daith ysgol i Lundain ym mis Mawrth i’r Sioe Dillad Technolegol (Wearable Technology Show). Roedd esgidiau clyfar yno sy’n cynnwys technoleg GPS, ac roedd dillad, watsys a sbectol glyfar oedd yn caniatáu i chi wneud pob math o bethau. Anhygoel! Dw i wedi penderfynu beth dw i eisiau ei wneud ar ôl gadael yr ysgol!

Yn y clwb carate, dw i wedi symud ymlaen o’r gwregys gwyn i’r gwregys oren. Cyn bo hir, bydda i’n gweithio tuag at y gwregys glas a gwyrdd. Dw i’n benderfynol o ennill y gwregys du un diwrnod.

Ym mis Mehefin, cerddais i ddeg milltir i godi arian at gronfa’r hosbis. Roedd rhaid i fi ymarfer llawer! Dw i’n teimlo mor falch ohonof fi fy hun!

Dw i wedi cael gwaith rhan-amser yn helpu mewn siop fferm ac felly dw i wedi cynilo ychydig o arian. Felly, mae fy nghyfrif banc i’n edrych yn eitha iach.

Aethon ni i wersylla yng Nghei Newydd ym mis Awst a gwelais i ddolffiniaid yn y bae. Arbennig iawn! Dyna uchafbwynt y flwyddyn, dw i’n meddwl – ond am berfformiad ffantastig tîm Cymru yn yr Ewros, wrth gwrs! Ymlaen i Gwpan y Byd nawr!

 

Y pethau drwg:

Mae’r gwersi chwaraeon yn yr ysgol wedi bod yn ddiflas iawn eleni! Dw i jyst ddim yn mwynhau chwarae rygbi!

Weithiodd pethau ddim ma’s gydag Erin ... nac Emma ... nac Alys. Dim ots! Mae digon o bysgod yn y môr, fel maen nhw’n dweud.

Roeddwn i wedi bwriadu newid fy niet a bwyta’n fwy iach. Dw i YN bwyta mwy o ffrwythau ond dw i’n dal i fwyta gormod o greision (... a siocled ... a chacennau ... a bisgedi ... a ...) Bydd rhaid trio’n galetach y flwyddyn nesaf!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
diddrwg didda heb fod yn ddrwg nac yn dda (yn ddi-ddrwg ac yn ddi-dda) neither good nor bad
gwregys darn hir o ddefnydd neu ledr weithiau sy’n cael ei wisgo o gwmpas canol y corff belt
cyfrif banc trefniant gyda’r banc lle rydych chi’n gallu cadw’ch arian yn ddiogel bank account