Adolygiad Bwyty

Rhifyn 41 - Y Chwyldro Pobi
Adolygiad Bwyty

Rydyn ni i gyd, siŵr o fod, wedi bod allan i fwyta: mewn lle pitsa, yn McDonalds, neu efallai mewn gwesty crand hyd yn oed. Dyma enghraifft o adolygiad, lle mae person yn rhoi ei farn am y bwyty a’r bwyd y mae wedi’i fwyta.

gan: Elin 24 Chwefror 2017

Giovanni's

Mae’r bwyty Eidalaidd Giovanni’s wedi bod ar Heol y Parc ers rhyw chwe mis, ond doeddwn i ddim wedi bod yno erioed. Ond daeth cyfle nos Lun ddiwethaf, pan aeth pedwar ohonon ni allan i fwyta.

Dydy’r bwyty ddim yn fawr iawn; mae’n adeilad eithaf cul. Mae’r gegin yn y cefn ac mae’n bosib gweld y cogyddion yn paratoi’r bwyd.  Efallai fod lle i 20 o bobl, ond dim mwy. Mae lliain bwrdd coch tywyll dros bob bwrdd a channwyll fach ar bob un. Maen nhw’n chwarae cerddoriaeth Eidalaidd yn y cefndir, felly mae’r awyrgylch yn hamddenol braf.

Cefais fy synnu o weld bod y lle bron yn llawn ar nos Lun. Roedd hynny’n arwydd da. Roedd dau weinydd yno i’n croesawu, a chawson ni ein diodydd bron yn syth.

Doeddwn i ddim yn disgwyl gormod, a bod yn onest. Mae’r fwydlen yn syml iawn, y math o beth sydd ym mhob bwyty Eidalaidd: pasta a phitsa! Ond, cefais siom o’r ochr orau.

I ddechrau, ces i gawl y dydd, cennin a chaws Stilton. Roedd y bara cartref yn ffres ac yn flasus dros ben.

Picture of cheese and leek soup

Roedd y prif gwrs, sef Linguine Marinara – pasta bwyd môr mewn saws tomato cyfoethog – yn arbennig o dda. Roedd y cyflwyniad yn syml ond roedd blas y saws yn nefolaidd. Gofynnais am gaws Parma ar ei ben ac roedd hwnnw’n hyfryd o hallt.

Picture of Linguine Marinara

Roedd pawb yn canmol yn fawr gan fod hen ddigon o fwyd, a hwnnw’n fwyd blasus. Roedd  boliau pawb yn dynn erbyn diwedd yr ail gwrs.

OND.... roedd lle i bwdin, wrth gwrs! Gan ein bod mewn bwyty Eidalaidd, roedd rhaid dewis tiramisu. Roedd hwnnw’n baradwys mewn powlen! Ardderchog yn wir.

picture of tiramisu

Pryd gwych a rhesymol – £16.99 am dri chwrs swmpus, neu allech chi ddewis dau gwrs am £13.99.

Mae gwefan gan Giovanni’s sy’n cynnwys y fwydlen a gwybodaeth am sut i gysylltu â nhw. Ond dydyn nhw ddim yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i farchnata. Yn amlwg, does dim angen gwneud hynny. Maen nhw’n cynnig bwyd Eidalaidd da, ac rwy’n sicr fod pawb sy’n bwyta yno’n argymell y lle i’w ffrindiau a’u teuluoedd.

Giovanni’s, Heol y Parc, Llanaber, 01987 654321