Cogyddion a phobyddion enwog o Gymru

Rhifyn 41 - Y Chwyldro Pobi
Cogyddion a phobyddion enwog o Gymru
Bryn Williams

Enw: Bryn Williams, o Ddinbych.(h) llun y clawr Warren Orchard Gyda diolch i Wasg Gomer

Ysgolion: Ysgol Gynradd Twm o’r Nant, Dinbych ac Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy.

Coleg: Coleg Llandrillo, astudiodd Arlwyo.

Dechrau diddordeb mewn coginio: Pan oedd yn yr ysgol gynradd, aeth ar daith i fecws lleol yn Ninbych. Gwelodd sut roedd bara’n cael ei wneud. Pan oedd yn yr ysgol uwchradd, buodd yn gweithio yn yr un becws bob bore Sadwrn. Datblygodd ei ddiddordeb mewn bwyd wrth iddo dyfu llysiau a physgota.

Gwaith: Gweithiodd Bryn yn Llundain gyda Marco Pierre White a Michel Roux J a buodd ym Mharis am ychydig o amser.

Bwyty: Daeth yn brif gogydd bwyty Odettes, Llundain, cyn prynu’r lle yn 2008. Ers 2015, mae’n berchennog bistro Bryn @Porth Eirias, ym Mae Colwyn.

Yr Orsedd: Daeth Bryn yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 2013 pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych.

Gwaith teledu a radio: Mae Bryn wedi gwneud llawer o waith teledu a radio, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys Cegin Bryn ar S4C.

Llyfrau coginio: Mae llyfrau Bryn yn cynnwys Bryn’s Kitchen a For The Love of Veg yn Saesneg a Tir a Môr yn Gymraeg.

(h) llun y clawr Warren Orchard, Gyda diolch i Wasg Gomer

Elliw Gwawr

Enw: Elliw Gwawr, o Ddolgellau

PobiBook cover

Gwaith: Mae Elliw Gwawr yn ohebydd gwleidyddol gyda’r BBC yn San Steffan, Llundain.

Dechrau diddordeb mewn coginio: Pan oedd hi’n ferch fach, dechreuodd Elliw  goginio gyda’i Nain ac mae hi’n defnyddio llawer o’i hen ryseitiau hi.

Llyfrau pobi: Mae Elliw wedi cyhoeddi dau lyfr pobi Cymraeg: Paned a Chacen, a  Pobi. Cyn Paned a Chacen, doedd dim llyfr Cymraeg am bobi’n unig.

Blog: Mae Elliw yn ysgrifennu blog pobi: www.panedachacen.wordpress.com  Mae’n lliwgar ac yn ddiddorol iawn.

Paned a Chacen a Pobi - Elliw Gwawr  - Y Lolfa 

Luke Thomas

Enw: Luke Thomas, o Gei Connah

Dechrau diddordeb mewn coginio: Roedd Luke yn mwynhau coginio gyda’i nain. Roedd hi’n arfer tyfu llysiau yn ei gardd. Hefyd, roedd Luke yn hoffi gwylio rhaglenni coginio Jamie Oliver ar y teledu. Pan oedd yn yr ysgol uwchradd, dechreuodd Luke weithio mewn gwesty a bwyty lleol. Enillodd wobr ‘FutureChef’ pan oedd yn 15 oed.

Gwaith: Pan oedd yn 18 oed, Luke oedd prif gogydd ieuengaf Prydain mewn bwyty o’r enw ‘Sanctum on the Green’.

Gwaith teledu: Mae Luke wedi ymddangos ar Junior MasterChef, Great British Menu, Russell Howard’s Good News a Britain’s Youngest Chef.

Gwefan: Gallwch weld rai o ryseitiau Luke ar www.lukethomas.co.uk neu allwch ei ddilyn ar Instagram: @cheflukethomas.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
arlwyo sut mae bwyd yn cael ei baratoi catering
gohebydd rhywun sy'n adrodd storïau newyddion reporter
gwleidyddol am fyd gwleidyddiaeth political
San Steffan lle mae Senedd Prydain yn cwrdd Westminster