Diwrnod Rhyngwladol Prydau Ysgol

Rhifyn 41 - Y Chwyldro Pobi
Diwrnod Rhyngwladol Prydau Ysgol

Kids in a canteen

Mae Diwrnod Rhyngwladol Prydau Ysgol yn cael ei gynnal ddydd Iau, 9 Mawrth 2017. Mae diwrnod o’r fath wedi bod yn cael ei gynnal ers 2013.

Beth yw diben y diwrnod?

  • Annog disgyblion i fwyta’n iach
  • Rhoi gwybod bod prydau ysgol yn cynnwys bwyd da
  • Dangos bod cysylltiad rhwng bwyta’n iach, addysg a dysgu’n well
  • Rhannu storïau am brydau bwyd ysgol ledled y byd.

Jamie Oliver a Phrydau Bwyd Ysgol

Heddiw, rydyn ni’n cymryd yn ganiataol fod prydau ysgol yn brydau bwyd iach. Ond doedd hi ddim felly bob amser. Roedd bwyd sothach fel ‘chicken nuggets’ a ‘turkey twizzlers’ yn arfer bod ar fwydlenni’r ysgol. Felly, yn 2005, dechreuodd Jamie Oliver, y cogydd, ymgyrchu dros gael prydau ysgol iachach. Drwy’r rhaglen School Dinners, dangosodd sut roedd hi’n bosib cael prydau bwyd iach a rhad mewn ysgolion yn lle’r bwyd sothach.

Dyma rai o’r pethau yr oedd Jamie yn eu dweud ar y pryd:

Barn Jamie Oliver
Barn Jamie Oliver

Dydy plant ddim yn cael y maetholion cywir i’w helpu i dyfu, i ganolbwyntio yn yr ysgol ac i fod yn iach pan fyddan nhw’n oedolion.

Mae plant yn mynd yn dewach. Erbyn hyn mae 15% o’r holl blant o dan 11 yn ordew. Mae plant tew yn fwy tebygol o fod yn ordew pan fyddan nhw’n oedolion. Felly gallai fod ganddyn nhw broblemau iechyd difrifol. Mae gwyddonwyr yn credu mai dyma’r genhedlaeth gyntaf o blant a fydd yn marw cyn eu rhieni oherwydd eu bod nhw’n afiach.

Mae mwy a mwy o blant yn bwyta byrbrydau yn lle prydau go iawn. Felly maen nhw’n bwyta mwy o fwydydd nad yw’n iach.

Dydy llawer o blant ifanc ddim yn gwybod sut i osod y bwrdd neu ddefnyddio cyllell a fforc.

Mae athrawon yn dweud bod disgyblaeth yn waeth yn y prynhawn, ar ôl i’r disgyblion fwyta bwyd wedi’i brosesu sy’n llawn o siwgr, halen, braster ac ychwanegion eraill. Mae yna fwy a mwy o dystiolaeth wyddonol sy’n dweud bod deiet bwyd sothach yn cael effaith wael ar ymddygiad disgyblion.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn 2015, dywedodd Jamie nad oedd ei ymgyrch wedi llwyddo. “Y broblem yw bod bwyta’n iach yn cael ei ystyried yn rhywbeth ‘posh’ a dosbarth canol i’w wneud. Gwaetha’r modd, dydy pobl ddosbarth gweithiol ddim yn teimlo eu bod yn gallu fforddio bwyd ffres a choginio prydau o’r dechrau. Mae’n rhaid bod bwydydd iach, ffres yn rhatach na phrydau parod sy’n llawn halen a siwgr.’

 

Llun: Jamie Oliver retouched - really short o NYC, USA © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic