Dydd Mawrth Crempog

Rhifyn 41 - Y Chwyldro Pobi
Dydd Mawrth Crempog
Loading the player...

Cyfarwyddiadau

  • Gwyliwch y fideo unwaith heb edrych ar y cwestiynau.
  • Yna darllenwch y cwestiynau hyn cyn edrych ar y fideo eto.
  • Trafodwch yr atebion.

 

  1. Pa enwau arall am ddydd Mawrth Crempog sydd ar ddechrau’r darn?
  2. Faint o ddiwrnodau sydd cyn y Pasg?
  3. Pa dri pheth sydd eu hangen i wneud crempog?
  4. Beth yw’r gair am ‘bethau i lenwi crempog’?
  5. Llenwch y bylchau hyn yn y rysáit :
   
.......... o laeth
2 ..................
225g o ............................ plaen
Pinsied o .................
25g o ........................... wedi toddi

 

  1. Pa fath arall o flawd y gallwch chi ei ddefnyddio mewn crempog?
  2. Ym mha ddwy wlad maen nhw’n gwneud y math yma o grempogau tew gyda bacwn, a tsili, ac ati?
  3. O ble mae’r bancosen olaf yn dod?
  4. Gorffennwch y dywediad: Dydd Mawrth Ynyd, crempog bob ........................
  5. Beth yw’r enwau Cymraeg eraill am grempog sy’n cael eu dangos?
  6. Beth yw’r enw Saesneg sy’n dod o’r gair ‘crempog’?
  7. Beth mae pobl Caerfyrddin yn hoffi ei roi fwyaf yn eu crempogau?