Dyma 20 cwestiwn i brofi eich gwybodaeth am y rhaglen deledu boblogaidd. Trafodwch mewn parau neu grwpiau bach. Cofiwch: chewch chi ddim edrych ar y we i gael yr atebion!
- Faint o bobyddion sydd ar ddechrau’r gystadleuaeth?
- Faint o bobyddion sydd yn y rownd derfynol?
- Beth yw cyfenwau Mel a Sue?
- Beth yw cyfenwau Paul a Mary?
- Enwch y tair tasg sydd ym mhob rhaglen.
- Ym mha un o’r tasgau dydy’r beirniaid ddim yn gwybod pwy bobodd beth?
- Ble gwrddodd Mel a Sue?
- Ar ba sianel deledu dechreuodd y rhaglen?
- Ar ba sianel deledu oedd y rhaglen tan 2016?
- I ba sianel mae’r rhaglen yn symud?
- Pwy sy’n symud gyda’r rhaglen, a phwy sydd ddim yn mynd i symud?
- Beth yw enw’r rhaglen sy’n trafod beth sydd wedi digwydd yn y Bake Off?
- Beth oedd gwaith tad Paul?
- Tua faint o lyfrau coginio mae Mary Berry wedi’u hysgrifennu?
- Pwy enillodd y wobr gyntaf yn 2016?
- Beth oedd enw’r pobydd o Gymru yn ar y Bake Off yn 2016?
- Sawl cyfres o’r Bake Off sydd wedi bod?
- Pryd ddechreuodd rhaglen y Bake Off?
- Mewn sawl gwlad arall dros y byd mae rhaglen debyg i’r Bake Off erbyn hyn?
- Beth yw enw’r bobwraig o Gymru a gyrhaeddodd rownd gynderfynol y Bake Off yn 2014 ac sydd â rhaglen goginio ar S4C erbyn hyn?
Cewch yr atebion yn y tasgau.