Gweiddi: | Ble gawsoch chi wybod am y gystadleuaeth? |
DJ: | Rwy’n aelod o Ferched y Wawr, ac roeddwn i mewn cyfarfod lleol pan glywais am y gystadleuaeth. |
Gweiddi: | Oeddech chi’n gwybod yn syth eich bod chi eisiau cystadlu? |
DJ: | Oeddwn. Rwy’n hoff iawn o bobi cacennau. Wedi dweud hynny, doeddwn i ddim wedi gwneud llawer o fara brith. Roeddwn i’n gwybod bod rysáit gyda fi yn rhywle oddi wrth fy modryb. |
Gweiddi: | Aethoch chi ati i bobi’n syth? |
DJ: | Do, fe wnes i ddwy dorth i ymarfer. Yn y diwedd, roedd hi’n nos Fawrth arna i’n gwneud y bara brith terfynol, ac roedd hi i fod i gyrraedd gogledd Cymru erbyn dydd Iau. |
Gweiddi: | Aeth popeth yn iawn gyda’r pobi? |
DJ: |
Fe fuodd y dorth fara brith tua 10 munud yn hirach yn y ffwrn nag roedd hi i fod yno. Ond doedd dim gwahaniaeth achos roeddwn i wedi ei choginio mewn ffwrn Aga. Doedd y gwres ddim yn uchel. |
Gweiddi: | Beth ddigwyddodd wedyn? |
DJ: | Wel, roedd rhaid cael y dorth yn barod i’w hanfon i’r gogledd. Gadewais hi i oeri dros nos. Roeddwn i’n poeni y byddai hi’n torri ar y ffordd, felly roedd angen ei lapio hi’n ofalus iawn a’i rhoi mewn bocs cadarn. |
Gweiddi: | Sut glywoch chi eich bod chi wedi ennill? |
DJ: | Roeddwn i’n disgwyl galwad ffôn ar y diwrnod roedd Creision Jones yn mynd i ddweud pwy oedd wedi ennill. Ond ddaeth dim galwad. Felly, doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i wedi ennill. Penderfynais wylio ‘Heno’ i gael gweld pwy oedd wedi ennill. Cefais sioc fy mywyd pan glywais fy enw! Roedd hi’n syndod clywed bod 70 wedi cystadlu, a bod un dorth fara brith wedi dod yr holl ffordd o Awstralia. |
Gweiddi: |
Beth oedd y wobr? |
DJ: | Roedd gwobr o £100. Hefyd, byddwn ni’n cael bocs o Greision Jones bob mis am flwyddyn, a bydd Canolfan Fwyd Bodnant yn cynhyrchu’r bara brith. Hefyd, bydd y bara brith yn cael y teitl: Y Bara Brith Gorau yn y Byd! |