Beth yn y byd yw Erthygl 50?
Mae Erthygl 50 yn rhoi’r hawl i unrhyw aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd i adael yr undeb.
Mae Erthygl 50 yn esbonio sut mae’r broses honno i fod i weithio. Mae Erthygl 50 yn un o’r adrannau sy’n cael ei nodi yng nghytundeb rhyngwladol Lisbon yn 2007.
Cyn i Gytundeb Lisbon 2007 gael ei lunio a’i arwyddo gan bob gwlad sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd, nid oedd modd i unrhyw wlad adael yr Undeb Ewropeaidd.
Unwaith y bydd gwlad yn penderfynu tanio Erthygl 50, mi fydd gan y wlad honno ddwy flynedd i ddod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd ar bob math o faterion, fel masnach, mudo, amaeth, pysgota a sawl maes arall.
Unwaith y bydd Erthygl 50 yn cael ei danio, nid oes modd dod â’r broses i stop nac ymestyn cyfnod y trafodaethau. Yr unig ffordd o allu gwneud un o’r ddau beth hyn yw drwy gael cytundeb ymhlith holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd fod achos dros naill ai oedi neu stopio’r broses, neu ymestyn cyfnod y trafodaethau yn gyfan gwbl.
Mae unrhyw gytundeb newydd rhwng y wlad sy’n gadael â’r Undeb Ewropeaidd yn gorfod cael cytundeb mwyafrif o blith y gwledydd sy’n aelodau. Mae hawl gan Senedd Ewrop i wrthod y cytundeb newydd hefyd ar ôl hynny.
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi, ar ôl cytundeb gan y pleidiau eraill yn Senedd San Steffan, y bydd Erthygl 50 yn cael ei danio ym mis Mawrth 2017. Mae hyn yn golygu y bydd Prydain wedi gadael Yr Undeb Ewropeaidd yn llwyr erbyn mis Mawrth 2019.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
erthygl | cymal mewn cytundeb rhyngwladol | article |
masnach | prynu a gwerthu nwyddau | trade |
mudo | symud i rywle pell i fyw a gweithio | (to) migrate |
amaeth | y gwaith a wneir ar ffermydd | agriculture |
llywodraeth | y corff sy'n rheoli'r wlad | government |
pleidiau | grwpiau gwleidyddol sy'n ein cynrychioli | (political) parties |