Mwy na dim ond geiriau

Rhifyn 42 - Erthygl 50
Mwy na dim ond geiriau
A wyddoch chi fod gan Senedd Yr Undeb Ewropeaidd 24 iaith swyddogol?

Ers 1958, mae mwy a mwy o ieithoedd wedi dod yn rhan swyddogol o waith yr Undeb Ewropeaidd, wrth i wahanol wledydd ymuno.

Yn Senedd yr Undeb Ewropeaidd, felly, mae pob iaith swyddogol yr un mor bwysig â’i gilydd.  Drwy ddefnyddio cyfieithwyr ar y pryd i siarad yn y senedd, a chyfieithwyr sy’n cyfieithu pob dogfen i 24 o ieithoedd, gall pob Aelod Seneddol Ewropeaidd o bob gwlad dderbyn gwybodaeth am ddeddfau newydd yn eu hiaith ei hunain. Mae cytundebau rhyngwladol rhwng gwledydd yn cael eu trafod a’u llunio mewn gwahanol ieithoedd o ganlyniad, ac felly mae’n hollbwysig fod yr ieithoedd yn cael eu cyfieithu’n gywir wrth drafod manylion cymhleth pob cytundeb.  Gall un llythyren, heb sôn am un gair newid ystyr brawddegau'r cytundeb yn llwyr!

Yn hanesyddol, y Ffrangeg oedd yr iaith a ddefnyddid fwyaf wrth i gynrychiolwyr o wledydd gyfarfod y tu hwnt i Senedd yr UE, ond ers i’r UE ymestyn i gynnwys gwledydd o Ddwyrain Ewrop, daeth y Saesneg yn fwy poblogaidd fel iaith allai nifer fawr o gynrychiolwyr rhygnwladol ei siarad.  Serch hynny, ers i Brydain bleidleisio i adael, dim ond Malta ac Iwerddon fydd ar ôl fel gwledydd sydd â’r Saesneg fel un o’u hieithoedd swyddogol.  Felly, gallwn ni ddisgwyl gweld llai o’r Saesneg yn cael ei defnyddio rhwng gwledydd Ewrop a mwy o ieithoedd fel y Ffrangeg yn cael eu defnyddio yn y dyfodol.

Yn 2007, daeth yr iaith Wyddeleg yn un o ieithoedd swyddogol Senedd yr Undeb Ewropeaidd.  Gan fod y Gymraeg yn cael ei chyfrif fel un o ieithoedd swyddogol y Deyrnas Unedig, roedd gan nifer o bobl yng Nghymru obaith y byddai’r Gymraeg yn dod yn un o ieithoedd swyddogol Senedd yr UE.  Byddai hyn wedi caniatáu i Aelodau Seneddol Ewropeaidd o Gymru siarad Cymraeg ar lawr y senedd.  Ond gyda’r Deyrnas Unedig yn gadael, ni fydd y breuddwyd hwnnw yn cael ei wireddu.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
deddfau dogfennau sy’n nodi beth yw’r gyfraith laws
swyddogol mewn sefyllfa ffurfiol official
y Deyrnas Unedig yr enw ar wladwriaeth Prydain the United Kingdom