Pwy ydw i?

Fe allwch fy nhanio
ond nid wyf yn wn,
rwy’n help wrth ffarwelio
rhwng gwledydd mi wn.

Fe'm ganed yn Lisbon
wrth drafod wrth fwrdd
drwy eiriau nid ffrwydron,
heb arfau yn cwrdd.

Rwy'n rhan o gytundeb,
print, nid cig a gwaed,
os gadael yr Undeb
fy nhanio sydd rhaid.

Rwy'n waith i gyfreithwyr
sy’n pwyso pob gair,
rwy'n ias i gyfieithwyr
sy'n ffoli'n y ffair!

Rwy'n ddechrau ar y daith,
rwy’n ffordd i'r pen draw,
dwy flynedd – nid yw’n faith - 
a’r diwedd a ddaw.

Aneirin Karadog

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cytundeb sefyllfa lle mae dwy ochr yn cytuno agreement
cyfreithwyr arbenigwyr ar y gyfraith lawyers
cyfieithwyr pobl sy'n gweithio mewn sawl iaith translators