Taith mewn peiriant amser

Rhifyn 42 - Erthygl 50
Taith mewn peiriant amser
The Cymru Times

 

Degawd Dinistriol

Mae degawd union wedi pasio ers i Brydain bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.  Mae bywyd wedi newid yn aruthrol i bobl ar yr ynysoedd hyn ers i Brexit gael ei wireddu, ac nid newid er gwell mohono.

Beth am edrych yn fanylach ar beth yn union sydd wedi newid ers y diwrnod tyngedfennol pan bleidleisiodd pobl ar Fehefin 23, 2016?

Yn gyntaf dylid nodi nad yw’r Deyrnas Unedig bellach yn Deyrnas Unedig!  Yn sgil pleidlais Brexit, roedd anniddigrwydd cynyddol yn yr Alban gan fod y wlad honno yn gorfod gadael yr UE er gwaethaf y ffaith fod dros 60% o Albanwyr eisiau aros yn Ewrop.  Cynhaliwyd ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban o’r Deyrnas Unedig yn 2021 a’r tro hwn fe hawliodd yr Alban annibyniaeth o wladwriaeth Prydain mewn pleidlais agos o 53% i 47%.  Cafodd yr Alban ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd fel gwlad annibynnol ac mae wedi mynd o nerth i nerth.  Mae defnydd yr Alban o’r ewro wedi caniatáu mwy o gynnydd mewn masnach gydag Ewrop a mwy o gyfleoedd gwaith yn y wlad, ond mae’r Ffederasiwn Prydeinig, sy’n cynnwys Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru, wedi gweld tlodi enbyd ers i 2 filiwn o swyddi ddiflannu yn ogystal â rhwystrau mawr i fasnachu a theithio i wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd.

 

Dydd Mawrth, Mehefin 23, 2026

Mae hyn oll yn ei dro wedi arwain at newidiadau mawr i’r Ffederasiwn Prydeinig yn fyd-eang. Collwyd sedd Prydain ar gyngor diogelwch y Cenhedloedd Unedig ac fe blymiodd gwerth y bunt i fod yn ddiwerth yn ariannol.  Roedd hyn yn golygu bod y Banc Rhyngwladol wedi gorfod llenwi coffrau’r wlad, er mwyn achub Y Ffederasiwn Prydeinig yn ariannol.   Oherwydd hynny, mae gennym bellach ddyled ariannol rhyngwladol sydd yn y biliynau.

Er bod hynny’n ddigon gwael, gyda channoedd o filoedd o bobl yn cael eu troi o’u cartrefi  i lwgu o ddydd i ddydd ar y stryd, daeth diwedd y BBC fel sioc i nifer.  Ond heb arian yng nghoffrau’r llywodraeth nac arian gan bobl Prydain i dalu ffi drwydded y BBC bu’n rhaid i’r gorfforaeth ddarlledu ddod i ben.

Yn ogystal â gweld busnesau lu yn gadael Prydain i ail-leoli yn Ewrop, fe gafodd Brexit effaith ar chwaraeon yn yr ynysoedd hyn.  Cymerwch uwch-gynghrair Lloegr er enghraifft.  Yn sgil y rheolau newydd ar beidio â gadael i weithiwr o dramor symud yma’n hawdd i weithio, nid oedd modd i sêr fel Cesc Fabregas, Sergio Aguero, Diego Costa, Alexis Sanchez a Thibaut Courtois barhau i weithio yn y wlad.  Ac yna’n raddol, gyda diffyg arian yn gyffredinol, doedd dim modd i Sky na BT barhau i ariannu’r gynghrair.  Prin y gellir ei galw’n un o gynghreiriau gorau Gogledd Ewrop bellach, heb sôn am fod y gorau yn y byd!

Mae’n stori debyg ym myd rygbi hefyd.  Gadwaodd y sêr rhyngwladol i chwarae yn Ffrainc, ac mae stad druenus ar Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd bellach.  Mae’r lle bron yn adfail.  Mae hynny’n wir am ein ffyrdd, ein gorsafoedd trenau a’n canolfannau dinesig hefyd.  Mae ein gwlad yn cwympo’n ddarnau.  Mae’n anodd gweld sut all pethau wella.  Os ydych chi’n gall, fe geisiwch ganfod gwaith ymhell o’r Ffederasiwn Prydeinig.

 

 

The Cymru Times

 

Dathlu’r Degawd

Mae degawd union wedi pasio ers i Brydain bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.  Mae bywyd wedi newid yn aruthrol i bobl ar yr ynysoedd hyn ers i Brexit gael ei wireddu, ac mae'r newid wedi gwella pethau.

Beth am edrych yn fanylach ar beth yn union sydd wedi newid ers y diwrnod tyngedfennol pan bleidleisiodd pobl ar Fehefin 23, 2016?

Roedd yr ymgyrch i aros yn Ewrop yn darogan y byddai’r byd yn dod i ben ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid felly y bu. Os rhywbeth, rydym wedi gweld cynnydd mewn nifer o swyddi yng ngwledydd Prydain, gyda diweithdra ar ei lefel isaf ers degawdau.  Mae cynnyrch a nwyddau wedi mynd yn rhatach i’w prynu yn y siopau ar ôl tanio Erthygl 50 ym mis Mawrth 2017 a chael cytundeb arbennig wrth adael.

 

Dydd Mawrth, Mehefin 23, 2026 

Bellach, mae gennym sefyllfa lle mae cwmnïau rhyngwladol yn awchu i leoli eu swyddfeydd yma.  Mae ein prifysgolion ymysg rhai gorau cyfandir Ewrop ac mae ein gwyddonwyr yn elwa o biliynnau o bunnau o arian ymchwil yn sgil llwyddiant economaidd y Deyrnas Unedig.

Cafodd yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru fwy o bwerau i’w seneddau eu hunain o fewn Prydain, ac fe sicrhaodd hyn fod datganoli’n gweithio’n well. Yn bwysicach byth i Lywodraeth Prydain yn Llundain, mae’r Alban wedi bod yn hapus i aros fel rhan o’r Deyrnas Unedig.  Byddai gweld yr Alban yn gadael Prydain yn drychinebus!

Mae’r Deyrnas Unedig wedi cryfhau ei llais yn y Cenehedloedd Unedig hefyd, gyda’r wlad yn cynnig ei hunan i ddatrys rhyfeloedd rhwng gwledydd y byd, a bellach, ar ôl i Brydain gadeirio trafodaethau rhwng Israel a Phalesteina, mae heddwch parhaol yn sgil setliad trafodaethau Llundain, 2025. 

Ond i ni yng Nghymru, efallai mai’r peth gorau a ddigwyddodd oedd fod ein chwaraewyr rygbi i gyd wedi dod yn ôl i chwarae yng Nghymru.  Mae’n rhaid mai hyn sy’n cyfri am y ffaith fod Cymru wedi ennill y Gamp Lawn dair gwaith yn y pum mlynedd diwethaf.  Mae’r gobaith yn uchel y gallwn gipio’r Cwpan y Byd nesaf yn Unol Daleithiau America.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
tyngedfennol digwyddiad sy’n newid cwrs hanes fateful
anniddigrwydd bod yn anhapus gyda rhywbeth discontent
annibyniaeth bod yn rhydd i benderfynu drosoch eich hun independence
ffederasiwn casgliad o ranbarthau neu wledydd federation
corfforaeth sefydliad sy’n rheoli rhywbeth corporation
diweithdra bod heb waith unemployment
darogan rhagweld y dyfodol (to) predict
elwa gwneud arian neu lwyddo (to) benefit
trychinebus rhywbeth sy’n cael effaith wael iawn disastrous
datrys canfod ateb i broblem (to) solve