Mae arolwg a gafodd ei baratoi yn 2015 yn dangos bod:
Dyma rai canlyniadau diddorol eraill:
Beth ydy barn darllenwyr Gweiddi?
Dw i’n cael dwy wers addysg gorfforol / chwaraeon yn yr ysgol bob wythnos a dw i’n mwynhau’n fawr. Dw i ddim yn arbennig o dda ond dw i’n gwybod bod cadw’n heini yn bwysig i fi, felly dw i’n hapus iawn i wneud chwaraeon.
Ydy, mae cadw’n heini’n bwysig ond dw i ddim yn mwynhau chwaraeon yn yr ysgol. Mae’n well gen i fynd i’r ganolfan hamdden i wneud carate yn y nos.
Ond mae chwaraeon yn yr ysgol yn rhad ac am ddim. Dw i ddim eisiau gwario arian ar garate, nofio yn y pwll nofio cyhoeddus a chael gwersi eraill.
Does dim rhaid gwario arian ar gadw’n heini. Beth am fynd i gerdded yn egnïol - power walking yn Saesneg - neu beth am fynd allan ar y beic ar ddydd Sadwrn? Dw i’n beicio bob penwythnos.
Dw i ddim yn mwynhau chwaraeon o gwbl.
Gwybodaeth
llun gan Sport Wales
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
gweithgaredd corfforol | ymarfer corff neu chwaraeon corfforol | physical activity |
rhoi cynnig ar | trio | (to) try |