Helo.
Mae rhai pobl yn meddwl bod gwneud gwaith gwirfoddol yn ddiflas ond dydy hyn ddim yn wir o gwbl. Dw i wedi bod yn gwirfoddoli ers dwy flynedd a dw i wedi mwynhau pob munud. Dw i’n cael llawer o hwyl, dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd a dw i wedi dod yn berson mwy hyderus fy hun.
Gan fy mod i’n helpu’r hyfforddwr sy’n hyfforddi’r tîm pêl-droed o dan 10 oed, dw i wedi dysgu llawer o sgiliau, fel sut i chwarae’n dda, sut i hyfforddi, sut i weithio gyda phobl eraill a dw i wedi dysgu llawer am ddiogelwch ar y cae chwarae hefyd. Bydd hyn i gyd yn help i fi yn y dyfodol oherwydd hoffwn i weithio fel hyfforddwr ffitrwydd ryw ddiwrnod.
Mae gwirfoddoli’n hwyl ac mae digon o gyfleoedd gwahanol ar gael, e.e.
Felly, ga i annog darllenwyr Gweiddi i wneud rhywbeth gwerth chweil yn eu hamser sbâr? Gwirfoddolwch!
Pob hwyl,
Morgan Jones
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
gwaith gwrifoddol | gwaith heb gyflog i helpu eraill fel arfer | voluntary work |
gwirfoddoli | gwneud gwaith gwirfoddol | (to) volunteer |
hyfforddwr | rhywun sy'n dysgu sgil i rywun arall; person sy'n hyfforddi | trainer |
diogelwch | bod yn ddiogel | safety |
elusennau | achosion da; ffurf luosog elusen | charities |
annog | perswadio | (to) encourage |