Annwyl Gwynt, Haul a Môr,
Rwyf yn ysgrifennu atoch eich tri er mwyn cael gwell syniad am yr hyn allwch chi ei gynnig o ran creu egni adnewyddol. Rwyf yn poeni’n arw am ddyfodol ein hamgylchedd, ac felly rwy’n chwilio am ffordd iachach i gynhyrchu egni. Rwy’n ymwybodol ei bod yn bosib cynhyrchu egni trwy eich defnyddio chi. Ond nid wyf yn yn siŵr pa un ohonoch yw’r mwyaf effeithiol.
Ydy hi’n bosib i chi ymateb i’r e-bost yma gydag unrhyw sylwadau fyddai’n gymorth i mi ddewis un ohonoch ar gyfer fy mhrosiect os gwelwch yn dda?
Cofion,
Wil Ymchwil.
Annwyl Wil,
Diolch yn fawr am dy e-bost. Rwy’n credu’n gryf mai fi yw’r mwyaf effeithiol am gynhyrchu egni.
Mae Cymru’n wlad fynyddig felly mae digon o lefydd gwyntog. Dim ond buddsoddi mewn Melinau Gwynt sy’n rhaid i ti ac fe wna i wneud y gweddill. Mae Melin Wynt arferol yn ddigon i bweru 1,500 o dai.
Nid yw Melinau Gwynt yn gwneud cymaint o niwed i fyd natur ag y mae'r hyn fyddai'n rhaid i ti ei adeiladu petaet ti am ddefnyddio'r môr i gynhyrchu trydan.
Rwy’n hyderus mai fi yw’r mwyaf effeithiol am gynhyrchu trydan.
Cofion gwyntog,
Gwynt.
Annwyl Wil,
Rwyf wedi darllen eich ebost ac ymateb Gwynt. Mae’n wir bod rhai pryderon am effaith adeiladu arglawdd ac argae ar fyd natur ond mae’n rhaid cofio nad ydy Gwynt yn ddibynadwy iawn. Ydi hi’n wyntog bob dydd? A beth sy’n digwydd os ydy’r gwynt yn rhy gryf?
Mae’r môr, ar y llaw arall, yno ddydd a nos... sy’n gwbl wahanol i’r haul wrth gwrs. All yr haul gynhyrchu egni yn y nos?
Mae’n bosib defnyddio’r tonnau a defnyddio’r llanw i gynhyrchu egni. Mae symudiad y dŵr yn gyrru generaduron trydan.
Heb os, fi yw’r dewis gorau i chi.
Cofion morol,
Môr.
Annwyl Wil,
Mae hi wedi bod yn ddifyr iawn darllen dy e-bost ac ymateb y ddau arall. Mae’n wir nad ydw i’n gynhyrchiol iawn yn y nos nac ychwaith pan mae hi’n gymylog ond mae yna nifer o wahanol ffyrdd o ddefnyddio fy egni i.
Mae’n bosib cynhyrchu trydan, cynhesu dŵr a hyd yn oed cynhesu adeiladau. Mae’r dechnoleg sy’n defnyddio gwres yr haul yn datblygu trwy’r amser ac mae’r posibiliadau yn amrywiol.
Mae’n debyg bod ein hymateb yn rhoi mwy o benbleth i ti gan fod manteision ac anfanteision i bawb. Bydd yn rhaid i ti wneud mwy o waith ymchwil mae arna i ofn.
Cofion heulog,
Haul.