I'r Gofod!

Dyma ddau ddarn o lenyddiaeth i chi eu darllen.

Yn gyntaf, detholiad o erthygl oddi ar wefan golwg360.com yn sôn am ymgyrch i ddod â maes rocedi i Lanbedr, ger Harlech.

Yna, detholiad byr o eiriau cyntaf nofel Llyr Titus, ‘Gwalia’. Nofel wyddonias am antur merch o’r enw Elan sy’n byw ar long ofod o’r enw Gwalia.

Ai yn Llanbedr y bydd porthladd gofod cynta’ gwledydd Prydain?

Mae hen faes awyr ger Harlech gam yn agosach at fod yn un o “borthladdoedd gofod” cynta’ gwledydd Prydain, yn ôl y cwmni sydd am weld y lle’n cael ei ddatblygu.

Bu tîm o Spaceport Cymru mewn cynhadledd yn Llundain ym mis Chwefror i drafod teithiau i’r gofod – ac fe gafodd achos ‘Canolfan Awyrofod Eryri’ yn Llanbedr, ei roi gerbron.

Roedd cynhadledd ‘Launch UK: Igniting the UK’s new space age’ yn cael ei chynnal gan y Gymdeithas Awyrennol, gyda chynrychiolwyr o borthladdoedd gofod posib eraill ledled gwledydd Prydain yn cyflwyno eu hachosion nhwthau.

Cystadleuol 

Beth sy’n gwneud achos Canolfan Awyrofod Eryri yn un deniadol?

  • Ei safle ar yr arfordir i’r de o dre’ dwristaidd Harlech;
  • Ei lleoliad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n golygu bod nifer yr awyrennau sy’n hedfan uwchben yn isel;
  • Ei hanes o fod yn faes arbrofi awyrennau di-beilot yn y gorffennol.

“Gwelsom wir ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn Llanbedr,” meddai Prif Weithredwr Canolfan Awyrofod Eryri, Paul Lee.

Fe allai’r teithiau cyson i’r gofod ddigwydd mor fuan â 2020.

Llanbedr hangar

Llun: Llanbedr Hangars - geograph.org.uk - 420619 - Peter Humphreys © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-ShareAlike 2.0

* * * * *

GWALIA

(PENNOD 1)

Gwaeddodd Hans Reiter rywbeth llawer gwaeth nag ‘wps’.

Yn ôl y cyfrifiadur, doedd dim gobaith dianc.

Gwasgodd y sbardun i’r eithaf. Roedd yr injan yn sgrechian.

Dim newid.

Roedd yn dal i gael ei dynnu tuag at y blaned.

Dyrnodd y llyw.

Roedd wedi ymchwilio, wedi treulio’i oes yn dilyn hanesion hen yrwyr llongau cargo. Wedi casglu dyddiaduron a chofnodion fideo pobl a oedd wedi fforio drwy’r gofod ac wedi pori drwyddyn nhw’n ofalus. Wedi darganfod y gwirionedd yn y chwedlau. Yna rhoi gweddill ei arian i brynu chwip o long ofod a threulio blynyddoedd yn crwydro rhwng y planedau. A dyma fo wedi cyrraedd yr unig blaned y bu’n chwilio amdani. Ac roedd yntau ar fin marw.

Roedd ganddo ddeg munud i fyw yn ôl cloc y cyfrifiadur.

gwalia / lleuadgwalia

(h) y testun (Gwalia) Llyr Titus

Gyda diolch i Wasg Gomer

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
porthladdoedd mwy nag un porthladd ports
cynhadledd digwyddiad pan mae pobl sy'n rhannu diddordeb yn dod at ei gilydd i'w drafod conference
ledled ar draws, ledled y byd = ar draws y byd across
sbardun pedal mewn cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio i reoli cyflymder throttle
injan enw am beiriant sy'n gyrru rhywbeth engine
darnodd rhywun yn defnyddio ei ddwrn i daro rhywbeth he/she punched
fforio teithio i fannau newydd (to) explore
pori bwyta porfa / glaswellt (to) graze