Dewch i gwrdd â …

Rhifyn 45 - Teledu Cymru
Dewch i gwrdd â …
Gwybodaeth
Gwybodaeth

Enw: Daf Wyn (ond Dafydd Wyn Rees sydd ar y pasbort!)

Byw: Caerdydd

Dod o: Llandudoch, ger Aberteifi

Ysgol: Ysgol Uwchradd Aberteifi

Diddordebau: Cymdeithasu gyda ffrindiau, rhedeg, canu, mynd ar antur

Gwaith: Gweithio i gwmni Tinopolis

Teitl y swydd: Cyflwynydd a gohebydd

Dyletswyddau yn y gwaith:

  • Cyflwyno’r rhaglen gylchgrawn Prynhawn Da yn fyw o’r stiwdio yn Llanelli.
  • Gohebu ar straeon ar draws Cymru ar gyfer y rhaglen Heno – mae hyn yn cynnwys gwaith byw a gwaith wedi’i recordio o flaen llaw.
  • Fel rhan o’r tîm cynhyrchu, rhaid ymchwilio a dod o hyd i straeon o bob cwr o Gymru.
  • Weithiau, mae’n trosleisio rhaglenni eraill.
  • Yn ddiweddar, mae e wedi cynhyrchu a chyflwyno rhaglen arbennig am ei daith i Base Camp ar fynydd Everest, yn Nepal!

Gwaith blaenorol: Gweithio yn Siop Tresaith yn ystod gwyliau’r ysgol a gwyliau’r brifysgol – “Lle braf iawn ac mae gen i atgofion melys am y lle!” meddai Dafydd.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cyflwynydd rhywun sy’n cyflwyno rhaglen ar y teledu presenter
gohebydd rhywun sy’n anfon newyddion ac eitemau i raglen deledu journalist
tîm cynhyrchu y tîm sy'n gyfrifol am gynhyrchu rhaglen deledu production team
ymchwilio chwilio am wybodaeth (to) research
trosleisio recordio llais i fynd gyda ffilm (to) voiceover
blaenorol cyn hyn previous