Annwyl ddarllenwyr,
Ysgrifennaf i longyfarch S4C ar ei noson gyntaf o ddarlledu ac i ddweud pa mor hapus ydwyf fod sianel newydd wedi cael ei sefydlu.
Rhaid i mi ddweud nad oeddwn o blaid cael sianel Gymraeg tan yn ddiweddar iawn. A dweud y gwir, roeddwn yn cefnogi penderfyniad y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, a’r Ysgrifennydd Cartref, William Whitelaw, i wrthod sefydlu sianel Gymraeg. Mae pob Cymro a Chymraes yn gallu siarad Saesneg ac mae pawb yn deall rhaglenni Saesneg yn iawn, felly i beth roedd angen gwastraffu arian drwy sefydlu sianel Gymraeg? Ni allwn weld pwrpas i’r holl brotestio a’r ymgyrchu dros sianel Gymraeg a phan welais i bobl ifanc yn dringo i fyny’r mast darlledu ym Mlaenplwyf ar y newyddion, roeddwn yn meddwl eu bod yn hollol wallgof ac yn anghyfrifol dros ben, rhaid i mi gyfaddef.
Heno, fodd bynnag, rwy’n teimlo’n falch iawn dros bawb oedd yn dymuno cael sianel Gymraeg ac rwy’n falch hefyd dros bawb, fel fi, oedd yn gwrthwynebu’r sianel oherwydd rwyf wedi sylweddoli y byddaf yn elwa’n bersonol o’r sianel Gymraeg. Nid fy mod i’n bwriadu ei gwylio, wrth gwrs, ond mae ei sefydlu yn golygu y bydd pob rhaglen Gymraeg oedd ar BBC ac ITV cyn heno yn cael eu symud i’r sianel newydd ac ni fydd rhaid i mi eu goddef nhw byth eto! Yn wir, byddaf yn medru gwylio mwy o raglenni Saesneg ar y ddwy sianel o hyn ymlaen gan y bydd rhaglenni Saesneg newydd yn cymryd lle’r rhaglenni Cymraeg oedd ar y ddwy brif sianel.
Diolch, felly, i bawb a brotestiodd am y sianel. Mae arna i ddyled dragwyddol i chi a dymunaf bob llwyddiant i’r sianel newydd!
W. Smith
Noson fythgofiadwy!
Heno, am chwech o’r gloch dechreuodd S4C – sianel deledu Gymraeg! Nawr, mae pedair sianel ar y teledu yn lle tair ac mae un ohonyn nhw’n dangos rhaglenni Cymraeg! O’r diwedd!
Rhaglen gartŵn oedd y rhaglen gynta – rhaglen am dedi anhygoel a dw i’n siwr y bydd y sianel newydd yn anhygoel hefyd! Yna, daeth y newyddion ar y sgrin – a’r newyddion gorau posib wrth gwrs oedd dechrau S4C!
Bydd 20 awr o raglenni Cymraeg ar y sianel bob wythnos a bydd dwy opera sebon – Coleg a Pobol y Cwm (sydd wedi bod ar BBC ers 1974!). Rydyn ni’n mynd i gael pob math o raglenni – rhaglenni newyddion, rhaglenni dogfen, dramâu, ffilmiau, rhaglenni plant, rhaglenni cwis, rhaglenni comedi a chwaraeon a rhaglenni ffermio – a mwy. Dw i’n methu aros. Dw i mor hapus!
Dw i’n teimlo mor ddiolchgar i bawb sy wedi ymgyrchu mor galed dros sefydlu’r sianel, yn enwedig Gwynfor Evans! Hebddo, fyddai dim sianel Gymraeg dw i’n siwr. Fe yw fy arwr i nawr!
Nos da – tan nos yfory! Dw i’n methu aros i weld pa raglenni Cymraeg fydd ymlaen nos yfory – a’r noson wedyn … a’r noson wedyn. Mae’r sianel newydd yn mynd i newid fy mywyd!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Ysgrifennydd Cartref | gweinidog yn y llywodraeth yn Llundain sy’n gyfrifol am faterion yn ymwneud â Phrydain | Home Secretary |
sefydlu | dechrau | (to) establish |
ymgyrchu | gweithredu dros achos penodol | (to) campaign |
gwrthwynebu | bod yn erbyn rhywbeth | (to) oppose |
elwa | cael elw | (to) profit |
bythgofiadwy | i'w gofio am byth | unforgettable |