Gweithio ar raglen gylchgrawn

Rhifyn 45 - Teledu Cymru
Gweithio ar raglen gylchgrawn

Dyma Dafydd Wyn Rees. Mae e’n gweithio ar y rhaglenni Prynhawn da a Heno ar S4C.

I ddechrau, darllenwch y darn “Dewch i gwrdd â …”, er mwyn cael gwybodaeth amdano.

Sut rydych chi wedi cyrraedd lle rydych chi nawr? 

Dilynais i gwrs gradd yn y Gymraeg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl gorffen y cwrs, roeddwn i wedi bwriadu dilyn cwrs i fod yn athro ond pan ddaeth y cyfle i weithio i gwmni Tinopolis ar ei raglenni dyddiol roedd rhaid i mi dderbyn.

Oes yna brofiadau yn y gorffennol sydd wedi’ch helpu chi yn eich swydd?

Yn fy swydd i, mae’n rhaid i mi deimlo’n gartrefol o flaen cynulleidfa ddieithr. Dw i wrth fy modd yn canu mewn corau felly mae llwyfannau eisteddfodau bach a mawr wedi magu hyder ynof i. Ers yn blentyn dw i wedi canu gydag Ysgol Gerdd Ceredigion, dan arweiniad Islwyn Evans, yna gyda Chôr Aelwyd y Waun Ddyfal yn y Brifysgol, a nawr dw i’n canu gyda chorau Cywair a Côrdydd - mae hyn i gyd wedi bod yn hyfforddiant gwych ar gyfer gwybod sut i sefyll yn llonydd ac yn dawel gyda gwên enfawr am oriau diddiwedd!

Sut mae medru siarad Cymraeg wedi helpu yn eich gyrfa chi? 

Mae’n annhebygol iawn y byddwn i’n gweithio i S4C heb fedru siarad Cymraeg! Mae angen gafael dda ar yr iaith ac mae angen medru ei haddasu at wahanol sefyllfaoedd a lleoliadau. Er enghraifft, mae’r iaith ychydig yn fwy blodeuog pan fyddwn ni’n trafod gwaith beirdd fel T.H. Parry-Williams, ond mae’n fwy hamddenol gydag eitem ysgafn fel un ar Farathon Llundain.

Sut mae medru siarad Cymraeg wedi cyfoethogi’ch bywyd? 

Heb os, mae’r Gymraeg wedi agor sawl drws i mi. Dw i’n mwynhau canu a dw i wedi bod yn aelod o gorau ers yn ifanc iawn. Mae'r rhain yn gymdeithasau Cymraeg ac o’u hachos nhw dw i wedi teithio’r byd, cwrdd â phobl bwysig ac enwog yn y byd cerddorol a dw i wedi canu mewn rhai o’r neuaddau cyngerdd enwoca’ yn y byd – fel y Royal Albert Hall a’r O2 yn Llundain.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sydd eisiau bod yn gyflwynydd neu ohebydd ym myd y teledu? 

Ewch amdani! Os ydych chi’n mwynhau siarad gyda phobl a theithio, dyma’r swydd i chi. Mae’r oriau’n gallu bod yn hir ac mae llawer o bwysau arnoch chi a’r tîm i greu rhaglen sydd o’r safon uchaf - ond mae hynny’n wir gydag unrhyw swydd. Dw i mor ffodus i allu dweud fy mod yn dwlu ar fy swydd a’m cydweithwyr, yn ogystal â’r bobl newydd dw i’n cwrdd â nhw yn ddyddiol!

Beth yw’r peth pwysicaf ar gyfer bod yn gyflwynydd teledu da? 

Rhaid bod gyda chi ddiddordeb mewn pobl a rhaid i chi fod yn barod i sgwrsio a gwrando ar bawb!

Wnewch chi ddisgrifio diwrnod arferol?

Mae’n anodd iawn disgrifio diwrnod arferol fel cyflwynydd. Dw i’n treulio peth o fy amser yn y swyddfa yn Llanelli a’r gweddill mas ar yr hewl yn ffilmio eitemau i Heno a Prynhawn Da. Pan fydda i’n cyflwyno ar soffa Prynhawn Da, mae’r diwrnod yn dechrau tua 9.15 y.b.. Dw i’n bwrw golwg dros y running order, sef beth yw cynnwys y rhaglen a beth sy’n digwydd. Yna dw i a’r cyflwynydd arall yn sgriptio lincs i fynd ar yr autocue a thrafod trywydd sgyrsiau ein gwesteion ni - mae’n rhaglen awr felly mae ’na ddigon i’w drafod! Nesa, mae cyfle i ddarllen erthyglau yn y papurau newydd, ymchwilio i bwnc sy’n cael ei drafod ac yn y blaen. Erbyn 11 y bore, mae’r cyfarfod cynhyrchu yn cael ei gynnal lle mae’r cynhyrchydd, cyfarwyddwr, PA, rheolwyr llawr, cyflwynwyr, colur a’r bobl isdeitlo yn trafod yr holl gynnwys.

Mae rhaid i ni fod ar lawr y stiwdio erbyn tua 1pm i ymarfer, sef darllen drwy’r autocue a sicrhau ein bod ni’n gwybod ar ba gamera i edrych a phryd! Yn ystod yr amser yma hefyd ry’n ni’n cael sgwrs gyda’r cyfranwyr ac yn dod i nabod ein gwesteion ni. Mae Prynhawn Da yn fyw am 2 y.p. bob dydd, felly awr o sgwrsio, trafod, blasu (fy hoff ran i!) a chwerthin, wrth gwrs! Erbyn 3 y.p. dw i’n barod am ddished fach o de cyn mynd yn ôl i’r ddesg i baratoi at yr eitem sy’n cael ei ffilmio ’fory! Gall hyn olygu trafod ble i gwrdd â’r cyfranwyr, cael caniatâd i ffilmio, sgriptio, rhoi’r manylion i’r criw - lot fawr o bethau, gan groesi bysedd na fydd hi’n bwrw glaw! Weithiau, mae’r broses o drefnu yn fwy o dasg na’r ffilmio ei hun!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
annhebygol ddim yn debygol unlikely
lleoliadau ffurf luosog lleoliad; lle tu allan i'r stiwdio lle mae ffilmio'n digwydd locations
blodeuog arddull fwy barddonol flowery
pwysau disgwyliadau i wneud yn dda pressure
cydweithwyr ffurf luosog cydweithiwr; pobl sy'n gweithio gyda chi colleagues
gwesteion ffurf luosog gwestai; pobl sydd wedi eu gwahodd guests
trywydd cyfeiriad direction
hewl ffordd road
cyfranwyr ffurf luosog cyfrannwr; pobl sy'n cyfrannu at rywbeth contributors
dished dysglaid neu baned cuppa