Pa fath o raglenni?

Rhifyn 45 - Teledu Cymru
Pa fath o raglenni?

S4C yw’r sianel Gymraeg wrth gwrs ac mae pob math o raglenni arni. Cliciwch ar y wefan isod ac edrychwch ar dudalennau 30-39 i weld rhai o’r rhaglenni sy’n cael eu dangos ar y sianel:

http://www.s4c.cymru/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-2016.pdf

Erin Erin

Dw i’n mwynhau gwylio dramâu S4C. Maen nhw’n dda iawn achos maen nhw’n dangos bywyd fel mae e. Mae’r actio’n ffantastig fel arfer. Ardderchog!

Ashok Ashok

Dw i byth yn gwylio dramâu nac operâu sebon achos maen nhw’n wastraff amser. Dydyn nhw ddim yn dangos bywyd pob dydd a dydy’r cymeriadau ddim yn real. Mae’n well gen i wylio rhaglenni chwaraeon. Mae rhaglenni chwaraeon S4C yn wych! Mae digon o amrywiaeth – pêl-droed, ralïo, beicio – a rygbi wrth gwrs.

Wil Wil

Dw i’n cytuno am y chwaraeon – gwych! Ond mae rhai rhaglenni drama ardderchog hefyd ac mae Rownd a Rownd yn arbennig o dda oherwydd mae’n delio gyda sefyllfaoedd pobl ifanc.

Sofia Sofia

Dw i byth yn edrych ar S4C oherwydd mae’r rhaglenni’n ddiflas iawn. Dw i’n gwylio sianeli Saesneg bob amser.

Cai Cai

Sut wyt ti’n gallu dweud bod rhaglenni S4C yn ddiflas os nad wyt ti’n edrych ar y sianel, Sofia? Mae rhaglenni da iawn ar y sianel. Mae’r rhaglenni cerddoriaeth yn wych, er enghraifft – rwyt ti’n gallu clywed y gerddoriaeth ddiweddaraf yng Nghymru (ac mae pobl hŷn yn gallu mwynhau cerddoriaeth fwy traddodiadol!) Mae rhywbeth at ddant pawb yma!