Patrwm gwylio

Rhifyn 45 - Teledu Cymru
Patrwm gwylio
Yr Haul

Y ffigurau diweddaraf

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael yn dangos bod llai o Gymry Cymraeg yng Nghymru wedi gwylio S4C ar y teledu yn ystod 2015/2016 nag mewn blynyddoedd blaenorol. Gweler Graff 1 isod. Yn ôl arbenigwyr yn y maes, mae hyn yn nodweddiadol o batrwm gwylio sianeli eraill hefyd.

Ar y llaw arall, mae’r ffigurau’n dangos bod nifer y bobl ar draws y DU oedd yn gwylio’r sianel am o leiaf tair munud yn olynol yn ystod yr un cyfnod wedi cynyddu.

Dwy farn

Mae ein gohebydd Cyfryngau wedi ymweld ag ysgol uwchradd leol i weld beth yw barn y disgyblion am y ffigurau hyn.

“Mae angen i S4C geisio creu rhaglenni sy’n apelio at fwy o bobl,” meddai un disgybl. “Mae gormod o raglenni wedi cael eu creu ar gyfer pobl ganol oed, a does dim digon ar gyfer pobl ifanc.”

“Mae’r ffaith bod S4C yn apelio at bobl y tu hwnt i Gymru’n dangos pa mor llwyddiannus yw’r sianel,” meddai disgybl arall. “Efallai mai Cymry sydd wedi symud i rannau eraill o’r DU sy’n gyfrifol am y ffigurau hyn ond mae’n bosib hefyd bod pobl eraill, sydd ddim yn Gymry, wedi dechrau gwylio a mwynhau’r sianel oherwydd bod safon y rhaglenni mor uchel.”

Cyfrwng gwylio

Un peth arall sy’n ddiddorol yw bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd wedi bod yn gwylio’r sianel ar y we neu ar ddyfeisiau symudol yn ystod y cyfnod, yn hytrach nag ar y teledu yn unig. Gweler Graffiau 2 a 3.

Eich barn chi

Beth yw’ch barn chi am hyn i gyd?

Ysgrifennwch aton ni.

Rhifyn 56, Mai 2017

Graff 1

Graff 2

Graff 3

Graff 1 - Tudalen 50

 

http://www.s4c.cymru/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-2016.pdf

Graff 2 - Tudalen 52

 

http://www.s4c.cymru/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-2016.pdf

Graff 3 - Tudalen 53

 

http://www.s4c.cymru/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-2016.pdf

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
nodweddiadol yn dilyn patrwm typical
gohebydd rhywun sy'n cyflwyno adroddiadau i'r wasg reporter
yn olynol ar ôl ei gilydd consecutively
cynnydd nifer mwy increase
dyfeisiau ffurf luosog dyfais - teclyn arbennig devices