Mae fy mrawd bach mor swnllyd, yn cadw twrw drwy’r tŷ,
Mae e byth â hefyd yn cadw i darfu arna’ i.
Wrth wneud fy ngwaith cartref, rhaid wrth dawelwch pur,
Ond yn sydyn bydd `na sgrech a’r sgrech yn para’n hir!
Ac wedi i fi orffen fy ngwaith yn barod ar gyfer Miss Rhys
Mae’r babi blêr yn ei rwygo’n rhacs. Aaa! Nawr mae brys!
Mae gen i frawd bach, ac mae ei gewynnau yn drewi,
A phan mae’n cropian dros yr iPad mae’r sgrin yn rhewi!
Mae gen i frawd bach, ac am reswm na alla’ i ddallt,
Mae’r babi bach gwyllt wrth ei fodd yn tynnu fy ngwallt!
Er gwaetha’r drewdod a’r sgrechian, er gwaethaf hyn oll,
Heb gwmni fy mrawd bach annwyl, mi fyddwn i ar goll.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cewynnau | yr hyn mae babis yn ei wisgo cyn gallu defnyddio'r tŷ bach | nappies |