Ennill y Loteri

Rhifyn 46 - Loteri Bywyd
Ennill y Loteri
  1. Lansiwyd y Loteri Cenedlaethol ym Mhrydain ym 1994
  2. Ers ei sefydlu, mae’r loteri wedi creu 3600 o filiwnyddion ym Mhrydain
  3. Dros ugain mlynedd cyntaf y loteri, rhannwyd 53 biliwn o bunnoedd mewn enillion
  4. Mae 85% o’r enillwyr yn dewis aros yn ddienw.
  5. Ar gyfartaledd, mae enillwyr y loteri yn prynu 4.5 car newydd ar gyfer eu hunain, eu teulu neu ffrindiau ac mae 10% o enillwyr yn prynu dros ddeg car.
  6. Mae’r rhan fwyaf o enillwyr yn symud tŷ ond mae 65% o enillwyr yn prynu tŷ sydd o fewn 5 milltir i’w cartref gwreiddiol
  7. Mae ein siawns o ennill y jacpot ar y loteri Prydeinig, gydag un tocyn, oddeutu 1 mewn 45 miliwn.  Er bod y siawns o ennill y loteri yn brin, mae un teulu o ganolbarth Lloegr wedi ennill y jacpot 3 gwaith! 
  8. Mae’n debyg fod y Frenhines wedi ennill 10 punt ar y loteri cyntaf un ym 1994
  9. Sefydlwyd loteri Cymru eleni gyda’r  bwriad o gefnogi elusennau yng Nghymru. Gellir ennill hyd at 25,000 o bunnoedd.
  10. Mae gan wahanol wledydd eu loterïau eu hunain a’r jacpot mwyaf i rywun ei ennill erioed oedd 590.5 miliwn o ddoleri yn America.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ar gyfartaledd y ffigwr canolig a geir o gymryd y ffigwr uchaf a’r ffigwr isaf on average
elusennau sefydliadau sy’n codi arian dros achosion da charities