Teulu Brenhinol

Rhifyn 46 - Loteri Bywyd
Teulu Brenhinol
Dewch i nabod y Teulu Brenhinol gyda'r ffeithiau hyn:
  • A wyddech mai cyfenw pob aelod agos o’r teulu brenhinol yw Mountbatten-Windsor. Ond os byddwch chi byth yn cwrdd â’r frenhines bydd ‘Eich Mawrhydi’ yn gwneud y tro!
  • Mae amgueddfa Madame Tussauds wedi arddangos 23 model cŵyr o’r Frenhines mor belled.
  • Mae’r Frenhines yn dathlu ei phenblwydd ddwywaith bob blwyddyn! Ei phenblwydd go iawn yw Ebrill 26 ond mae hi hefyd yn cynnal dathliad arall ym mis Mai neu fis Mehefin.
  • Yn ôl y gyfraith, nid oes yn rhaid i’r frenhines basio ei phrawf gyrru a chael trwydded yrru i allu bod tu ôl i olwyn car. Does dim angen pasbort arni hi chwaith!
  • Pan briododd William a Kate yn 2011, fe dderbynion nhw 60,000 o lythyrau gan ffans ac fe wnaethon nhw yn siŵr y cafodd pob un llythyr ei ateb. Mae hynny’n llawer o waith ysgrifennu!
  • Mae Kate yn hoff o liwio llyfrau lliwio o dro i dro er mwyn ymlacio!
  • Mae’r Frenhines yn gallu siarad Ffrangeg yn rhugl.
  • Derbyniodd y frenhines anrheg o gi Corgi, sy’n gi Cymreig, pan oedd hi’n dathlu ei phen-blwydd yn 18 mlwydd oed. Enw’r ci cyntaf hwnnw oedd Susan!  Mae hi wedi gwirioni ar y cŵn bach Cymreig byth ers hynny.
  • Mae’r tywysog Siarl wedi gwneud mwy nag un araith yn Gymraeg dros y blynyddoedd.
  • Mae’r Frenhines wedi ymweld â 117 o wledydd. Cryn dipyn o deithio!
  • Mae aelodau o'r teulu brenhinol yn cefnogi dros 3,000 o elusennau o bob math.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
mawrhydi y teitl a roddir i aelodau o deuluoedd brehinol highness
cŵyr yr hyn a ddefnyddir i wneud canwyllau a modeli tebyg i rai mewn amgueddfeydd fel Madame Tussauds wax
y gyfraith y rheolau a wneir gan wleidyddion i gadw trefn the law
dyletswyddau y tasgau sy’n rhan o swydd neu rôl swyddogol person duties
y gymanwlad 52 o wledydd a fu’n rhan o ymerodraeth Prydain commonwealth