Gall bwlio ar y we ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oed. Mae hyd yn oed selebs byd-enwog wedi dioddef. Mae pobl fel Emma Watson, Taylor Swift, Tom Daley a Lorde wedi siarad am eu profiadau poenus o gael eu bwlio ar-lein.

Beth yw seibr-fwlio?

  • Gall fod yn negeseuon preifat sy’n cael eu hanfon yn syth at y dioddefwr yn bygwth, herio, yn defnyddio iaith greulon, stelcio, blacmelio neu roi pwysau arno i wneud rhywbeth nad ydynt eisiau ei wneud.
  • Gall y bwli dargedu’r dioddefwr oherwydd pwy ydyw, pa fath o fywyd sydd ganddo, beth mae'n ei gredu, pwy mae'n ei garu.
  • Gall y bwli rannu neu bostio negeseuon yn gyhoeddus, lluniau neu fideos niweidiol heb ganiatâd y dioddefwr.
  • Gall y bwli ddwyn hunaniaeth ar-lein neu hacio proffil. Mae gwneud hyn ynddo’i hun yn ddrwg, ond gall y bwli gam-drin eraill gan ddefnyddio enw’r dioddefwr.
  • Gall grŵp anwybyddu neu wrthod cydnabod unigolyn ar-lein a gwneud i’r unigolyn deimlo’n unig ac yn ddiwerth.

 

Beth sy’n gwneud seibr-fwlio mor greulon?

  • Mae’n gallu digwydd unrhyw awr o’r dydd; mae'n anodd dianc rhagddo.
  • Mae deunydd niweidiol yn gallu lledaenu’n gyflym ar y we.
  • Mae’r deunydd yn aros ar y we am byth.
  • Mae ceisio darganfod pwy yw'r bwli yn gallu bod yn anodd.
  • Mae’r math o fwlio yn gallu amrywio. Weithiau mae’n cymryd amser i’r dioddefwr dderbyn ei fod yn cael ei fwlio cyn gwneud rhywbeth am y peth.
  • Mae’n gallu digwydd ar wefannau cymdeithasu cyhoeddus, ar negeseuon preifat, ar YouTube, ar gemau ar-lein neu ar y ffôn.

Pwy yw’r bwlis?

  • Gall unrhyw un fod yn gyfrifol am frifo rhywun dros y we. Mae sgrin yn gallu creu'r camargraff fod lledaenu casineb a phoen yn dderbyniol, heb ystyried ei fod yr union yr un peth â siarad wyneb yn wyneb.
  • Wyt ti dy hun wedi gadael neges gas ar lun un o dy ffrindiau oherwydd fod pawb arall yn tynnu coes? Mae angen i bawb wneud yn siwr eu bod nhw’n meddwl ddwywaith cyn rhannu unrhyw beth ar y we, ac ystyried sut all rhywbeth effeithio ar y person arall.
  • Gall y bwli fod yn rhywun rwyt ti’n ei adnabod yn dda neu’n rhywun diethr o ochr arall y byd. Nid yw pellter yn ffactor ar y we, cofia.
  • Gall bwli ar-lein fod yn rhywun sy’n ymddangos fel ffrind i ddechrau, gall y berthynas droi’n anghyfforddus, yna gall ddatblygu i fod yn greulon a pheryglus. Gall bwlio ddigwydd yn araf bach, bob yn dipyn.

Beth alli di wneud i amddiffyn dy hun?

  • Gwna’n siwr fod dy broffil di wedi ei osod ar breifat ac nad wyt ti’n rhannu unrhyw wybodaeth bersonol gyda’r byd. Gwna’n siwr nad yw dy leoliad yn cael ei ddatgelu ar dy broffil.
  • Gwna’n siwr dy fod yn meddwl cyn postio unrhyw beth. Mae’n rhaid ystyried pa wybodaeth rwyt ti’n ei rhannu e.e. os wyt ti’n postio llun ohonot ti a dy ffrindiau – ydy’r llun yn datgelu eich lleoliad? Oes rhif ffôn yn y llun? Oes cardiau banc neu wybodaeth bwysig yn y cefndir nad ydych am ei rhannu?
  • Dewisa gyfrinair diogel sy’n cynnwys llythrennau, rhifau a phrif lythyren. Os wyt ti’n amau dy fod wedi cael dy hacio, newidia dy gyfrinair yn syth.

Beth i’w wneud os wyt ti’n cael dy fwlio ar-lein?

  • Peidio ymateb.
  • Tynnu llun o’r sgrin.
  • Os yn bosib, blocio neu ddileu’r bwli.
  • Siarad ag oedolyn ti’n ymddiried ynddi/o.
  • Dweud neu gwyno wrth y wefan neu’r cwmni gan edrych ar yr amodau wrth wneud.
  • Diffodd dy ffôn neu declyn.

 

Os wyt ti’n teimlo bod angen i ti siarad â rhywun am y ffordd y mae’r bwlio wedi gwneud i ti deimlo, ond nad wyt ti’n siwr at ble i droi, mae nifer o wefannau a rhifau ffôn sy'n gallu dy helpu. Dyma rai:

Meic Cymru:  https://www.meiccymru.org/cym/

Childline:       https://childline.org.uk

Cybersmile:   https://www.cybersmile.org

 

Daw’r wybodaeth o’r gwefannau yma:

https://www.haikudeck.com/seibr-fwlio-education-presentation-uZHL3O6nXX#slide0

http://formerly.cardiff.gov.uk/content.asp?nav=2869%2C3047%2C3049%2C3073%2C5443%2C5448%2C5469%2C5475&parent_directory_id=2865&language=cym

https://pwyntteulu.cymru/10-ffaith-am-seibrfwlio/

https://www.netnanny.com/blog/9-celebrities-you-never-knew-were-cyber-bullied/