• Adeilad uchaf Cymru yw Tŵr Meridian yn Abertawe, sy’n 107 metr.
  • Adeilad uchaf Llundain yw The Shard, sy’n 310 metr o uchder.
  • Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd yw stadiwm mwyaf Cymru - mae 74,500 o seddi yno.
  • Stadiwm Wembley yw stadiwm mwyaf Llundain ac mae 90,000 o seddi yno.
  • Mae deg prifysgol yng Nghymru ar hyn o bryd.
  • Mae o leiaf 40 prifysgol yn Llundain ar hyn o bryd.
  • Twnnel hiraf Cymru (ac eithrio Twnnel Hafren, sy’n cysylltu Cymru a Lloegr) yw twnnel trên un trac o’r enw Twnnel Ffestiniog sy’n, 3,407 metr.
  • Twnnel hiraf Llundain yw twnnel trên y Northern Line, sy’n 27,800 metr o hyd.
  • Sinema leiaf Cymru oedd ‘La Charrette’ yng Ngorseinon ger Abertawe. Roedd lle i 23 wylio ffilm yno. Mae'r sinema wedi cau erbyn hyn.
  • Yn Llundain, mae gan sinema ‘Vue Piccadilly’ dair sgrin. Mae lle i 88 yn Sgrin 1, 59 yn Sgrin 2 a dim ond lle i 40 yn Sgrin 3. Dyma, mae’n debyg, yw sinema leiaf Llundain.