Dyma ddetholiad o erthygl oddi ar wefan Cymru fyw. Sylwch mai erthygl o 2015 ydyw ac nad yw’r rhaglen ar S4C ar hyn o bryd!

Cyfraniad Cymry Llundain - 24 Ebrill 2015

Hawlfraint llun: S4C

Mae Llundain wedi bod yn gyrchfan i genedlaethau lawer o Gymry. Mewn cyfres newydd ar S4C bydd y darlledwr Huw Edwards yn rhannu stori rhai o gymeriadau lliwgar a dylanwadol o blith Cymry Llundain sydd wedi cyfrannu yn helaeth i hanes a datblygiad un o ddinasoedd mwya'r byd:

'Pryfoclyd'

Prif rinwedd Llundain yw ei hamrywiaeth. Y mae profi bywyd amlieithyddol ac amlddiwylliannol y ddinas yn beth i'w drysori. Ond y gwir yw bod stori Cymry Llundain, un o leiafrifoedd ethnig hynaf y ddinas, yn rhyfeddol o anghyfarwydd.

Yn fy nghyfres newydd ar S4C, Huw Edwards a'r Cymry Estron - Stori Cymry Llundain, rwy'n ceisio adrodd stori gymhleth a bywiog mewn tair pennod o awr yr un… tipyn o her a dweud y gwir.

Mae Cymry Estron yn deitl pryfoclyd - ar bwrpas - gan mod i'n gwahodd y gwyliwr i ystyried o'r newydd y cyfraniad a wnaed gan y gymuned Gymraeg fwyaf y tu hwnt i Glawdd Offa.

'Oes y Tywysogion'

Ond sut mae cychwyn yr hanes? Mae nifer o'n haneswyr disglair yn nodi 1485, a dyfodiad Harri Tudur, fel man cychwyn y gymuned Gymreig yn Llundain. Wedi'r cyfan, fe ddethlir gwreiddiau Cymreig Harri (roedd yn chwarter Cymro, fel mae'n digwydd…) ac fe ddaeth â byddin fechan o Gymry i Lundain ar ôl iddo gipio coron Lloegr ar Faes Bosworth. Ond mae 'na ddigon o dystiolaeth o bresenoldeb Cymreig yn Llundain ymhell cyn coroni Harri VII.

Fe ddechreuwn y gyfres yn Nhŵr Llundain ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1244, pan syrthiodd y tywysog Gruffydd ap Llywelyn Fawr i'w farwolaeth wrth geisio dianc.

Mae 'na stryd gul ger y Tŵr, Petty Wales, ac mae haneswyr yn barnu mai cyfeiriad yw hwnnw at gyswllt hynafol â'r tywysogion o Gymru.

'Arwyr'

Gerllaw saif All Hallows by the Tower, eglwys hynaf Dinas Llundain, lle bu nifer o Gymry yn addoli dros y canrifoedd, gan gynnwys Owain Myfyr, masnachwr cyfoethog ac un o'r caredigion mwyaf hael a welwyd erioed yn hanes diwylliant Cymru.

Mae 'na ddigon o arwyr eraill yn stori Cymry Llundain. Yn eu plith fe gawn Syr Hugh Myddelton, y peiriannydd a sefydlodd gyflenwad dŵr ffres i drigolion canol Llundain; Syr Hugh Owen, prif sylfaenydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Syr Benjamin Hall ('Big Ben') a'i wraig ryfeddol Arglwyddes Llanover, un arall o noddwyr hael ein diwylliant; David Lloyd George, gwleidydd radical a phrif weinidog nodedig, a'i wraig Margaret, arwres a fu'n asgwrn cefn i gymaint o achosion da.

Mae cyfraniad y peirianydd o Gymro, Syr Hugh Myddleton, yn cael ei gydnabod ar ffurf cofgolofn yn Islington Green.

'Ymdopi â newidiadau'

Do, fe gafwyd Clwb Cymry Llundain, ond bu'n rhaid aros tan y 1930au cyn cael hwnnw. Ac felly'r capel (a'r eglwys) oedd yn darparu rhwydwaith arbennig ar gyfer cymuned fawr y Cymry yn Llundain.

Un o'r pethau mwyaf godidog am fywyd Llundain yw bod y ddinas yn newid yn ddi-ffael, o flwyddyn i flwyddyn. A'r dasg yn y gyfres hon yw gosod Cymry Llundain yn y cyd-destun arbennig hwnnw, sef cymuned sy'n gorfod ymdopi â newid cyson.

Bu'n rhaid i'r gymuned honno ddatblygu, ond fe lynodd hefyd at rai traddodiadau pwysig. Y gobaith yw y bydd gwylwyr Cymry Estron yn cael mwy o afael ar amrywiaeth y ddinas, a rhan y Cymry ym mywyd cyfoethog un o ddinasoedd mawr y byd.

Y cwestiwn ar ddechrau'r gyfres yw hwn: pam trafod Cymry Llundain? Rwy'n ceisio dangos bod eu stori nhw yn berthnasol i'ch stori chi.

Mae hanes Cymru a hanes Cymry Llundain wedi eu cydblethu'n glos. Ie, Cymry 'estron', ond Cymry sy'n rhan annatod o stori Cymru.