Mae Llundain yn rhan amlwg o straeon Harry Potter. Un o’r pethau cyntaf mae’n rhaid iddo wneud er mwyn cyrraedd Hogwarts yw dal trên o blatfform naw a thri chwarter yng ngorsaf King’s Cross yn Llundain. Byddai’n braf gallu mynd yno, ond dim ond gwrachod a dewiniaid sy’n gallu cyrraedd y platfform, yn anffodus. Wedi dweud hynny, dim ond gwrachod a dewiniaid sy’n chwarae quidditch yn y llyfrau hefyd. Ond dydy hynny ddim yn wir mewn bywyd go iawn!!! Gwyliwch hwn: