Darllenwch y ddau ddarn yma.
Mae orennau’n ddefnyddiol iawn. Mae’n bosib …
Dillad o orennau
Mae Sicily, yn yr Eidal, yn enwog am ei orennau ac am gynhyrchu sudd ffrwythau. Wrth gynhyrchu’r sudd ffrwythau mae cannoedd o filoedd o dunelli o groen orennau’n cael ei gwastraffu.
Felly, penderfynodd Adriana Santanocito, dynes ifanc o Sicily, ei bod hi’n mynd i geisio ailgylchu’r crwyn i greu defnydd arbennig – defnydd allai gael ei ddefnyddio wrth wneud dillad.
Erbyn hyn, mae hi a’i ffrind, Enrica Arena, wedi dod o hyd i ffordd o brosesu’r crwyn i greu defnydd arbennig sy’n teimlo fel sidan ac maen nhw wedi creu cwmni arbennig o’r enw Orange Fiber.
Yn ogystal â theimlo ac edrych yn hyfryd, mae mantais arall i’r defnydd maen nhw wedi ei greu. Maen nhw wedi dyfeisio ffordd arbennig o brosesu’r crwyn fel nad yw’r olew a’r fitamin C sydd yn y crwyn orennau’n cael ei ddifetha. Felly, pan fydd rhywun yn gwisgo dillad sydd wedi eu gwneud o’r crwyn yma, mae’r olew a’r fitamin C yn cael ei amsugno i mewn i groen y person. Mae’r dillad yn gweithio fel eli croen, felly!
Dillad sy’n ailgylchu defnydd gwastraff … sy’n edrych yn dda … ac sy’n dda i’r croen, felly. Anhygoel!
Am fwy o wybodaeth, ewch i http://orangefiber.it/en/fabrics/
Mae rhai pobl yn mwynhau yfed paned o goffi unrhyw adeg o’r dydd ac maen nhw wrth eu bodd efo cacen goffi hefyd! Mae pobl eraill yn ychwanegu coffi at grefi neu gawl, ond mae rhai pobl yn gwneud pethau eitha “rhyfedd” efo gweddillion y pot coffi. Maen nhw’n eu harllwys yn yr ardd – i gadw malwod a chathod i ffwrdd – neu’n eu defnyddio gyda’r siampŵ wrth olchi eu gwallt er mwyn creu gwallt sy’n edrych yn iach iawn (ond byddwch y ofalus, mae’n gallu tywyllu’r gwallt!). Mae rhai pobl yn rhwbio ffa coffi dros eu cyrff er mwyn cael gwared â hen groen hyd yn oed.
Rŵan, mae cynlluniau i ddefnyddio coffi ar gyfer rhywbeth gwahanol iawn yn Llundain! Mae Arthur Kay, enillydd y teitl Entrepreneur y Flwyddyn 2017, wedi sefydlu cwmni o’r enw Bio-bean, sy’n casglu gwastraff coffi o siopau coffi, gorsafoedd rheilffyrdd, prifysgolion ac ati, er mwyn cynhyrchu tanwydd. Mae’r cwmni eisoes wedi creu logiau coffi i’w llosgi yn y tŷ i gynhesu cartrefi ond, cyn bo hir, mae gobaith y bydd y tanwydd sy’n cael ei greu o goffi yn gallu rhedeg bysys coch Llundain. Byddai hyn yn lleihau llygredd yn y ddinas yn sylweddol.
Dyma rywbeth i chi feddwl amdano y tro nesaf y byddwch chi’n yfed paned hyfryd o goffi!
Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.bio-bean.com/collection/
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
amrwd | heb ei goginio | raw |
dyfeisio | creu | (to) devise |
difetha | distrywio | (to) destroy |
amsugno | sugno i mewn | (to) absorb |
cael gwared â | taflu i ffwrdd | (to) get rid of |
tanwydd | defnydd sy'n cael ei losgi i greu gwres neu ynni | fuel |
yn sylweddol | yn fawr iawn | significantly |